Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhwng 12 a 29 Mai 2022, anogir aelodau’r cyhoedd i fynd ag arfau tanio nad ydynt eu heisiau neu sy’n anghyfreithlon i orsafoedd heddlu.
Ni fydd y rhai sy’n ildio arfau tanio yn cael eu herlyn am feddu ar arf tanio yn anghyfreithlon ar adeg ei ildio a gallant aros yn ddienw. Bydd yr arfau sy’n cael eu hildio yn cael eu harchwilio yn fforensig wedyn i gynorthwyo ag unrhyw ymchwiliadau sy’n dal yn weithredol o bosibl.
Meddai Martyn Smith, T/Uwch-arolygydd:
“Er bod troseddau sy’n cynnwys arf tanio yn brin ledled Gwent, mae troseddau difrifol iawn yn cynnwys gynnau yn dal i gael eu cyflawni.
“Mae’r ymgyrch ildio bythefnos o hyd hon yn gyfle i aelodau’r cyhoedd roi gynnau a bwledi i mewn a’u hatal rhag mynd i’r dwylo anghywir. Trwy gymryd rhan, byddwn yn sicrhau bod yr holl arfau tanio a bwledi yn cael eu gwaredu mewn ffordd ddiogel.
“Trwy gymryd rhan yn yr ymgyrch bythefnos o hyd rydych yn helpu i gadw Gwent yn ddiogel, gan leihau niwed a bygythiad posibl yn ein cymunedau."
Gellir ildio arfau tanio a bwledi ym mhedair o orsafoedd heddlu Gwent: Canol Casnewydd, Glynebwy, Trefynwy, a Chwmbrân rhwng 10am a 4pm. Cynghorir pawb sy’n dod ag arfau tanio, bwledi neu unrhyw arf arall i mewn yn ystod y cyfnod ildio i wirio amseroedd agor eu gorsaf trwy ffonio 101 neu ymweld â gwefan yr heddlu.
Os ydych yn gwybod am unrhyw bobl sy’n ymwneud ag arfau tanio anghyfreithlon, ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.
Ar gyfer rhagor o gyngor i’r cyfryngau, gellir cysylltu â NABIS ar 0121 626 7114 neu yn [email protected]
@NABIS_UK