Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw (dydd Iau 5 Mai), mae’n ddiwrnod cyfrineiriau’r byd, sef cyfle i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwella diogelwch cyfrineiriau.
Fel rhan o’r diwrnod, rydyn ni’n gofyn i chi wneud addewid cyfrinair i leihau’r perygl bod eich gwybodaeth yn cael ei dwyn ar-lein.
Gallwch wneud addewid mewn tri cham syml.
Ar gyfartaledd, mae gan bobl dros 100 o gyfrineiriau i’w cofio, felly rydyn ni am atgoffa pobl bod ffyrdd syml o gofio’r cyfrineiriau yma gan gadw eu cyfrifon a’u gwybodaeth yn ddiogel ar yr un pryd.
Mae data fel arian cyfred yn y byd modern, ac mae seiberdroseddwyr yn chwilio am y ffyrdd hawsaf o gael mynediad at ein gwybodaeth ar-lein er mwyn dwyn arian a’ch dynwared o bosib.
Bydd yr uned seiberdroseddau yn cymryd yr awenau ar ein cyfrif Instagram heddiw, i drafod y cyngor diweddaraf, y ffordd orau o ddiogelu eich cyfrifon, ac i siarad am y cyfrineiriau mwyaf cyffredin er mwyn i chi allu gwirio eich hylendid seiber eich hunain.
Meddai’r Swyddog Diogelu Seiber, Kate Lloyd:
“Cyn gweithio ym maes seiberdroseddau, ro’n i’n defnyddio enw fy nghi ar gyfer fy holl gyfrineiriau gan mai dyna oedd y ffordd hawsaf.
“Ond, mae prif ran fy swydd yn cynnwys cynghori llawer o ddioddefwyr, ac ers gweld gyda fy llygaid fy hunan yr effaith ddomino ddinistriol gall seiberdroseddu ei chael ar ddioddefwyr, rydw i wedi gwella fy seiberddiogelwch yn llwyr.
“Heddiw, ar ddiwrnod cyfrineiriau’r byd, rydyn ni’n annog unigolion i wneud addewid cyfrineiriau er mwyn amddiffyn eu cyfrifon ar-lein yn well.”
Oeddech chi’n gwybod:
Mae’r gair “password” wedi cael ei ddefnyddio 3.2 miliwn o weithiau ac mae modd ei gracio ar unwaith gan ddefnyddio meddalwedd cracio cyfrineiriau. Y cyfrineiriau eraill oedd ar frig y rhestr oedd:
Dyma rai pethau pwysig i’w cofio:
Rhowch Diwrnod Cyfrineiriau’r Byd yn eich dyddiadur, ac ymdrechwch i ddiweddaru eich diogelwch ar-lein unwaith y flwyddyn.
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi bod yn destun trosedd ar-lein, gallwch adrodd amdani ar-lein neu ffonio 101.
Fel arall, gallwch adrodd amdani wrth:
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Isod mae dolenni seiberddiogelwch defnyddiol:
Byddwch yn seiber-effro - https://www.ncsc.gov.uk/cyberaware/home
Sut i greu cyfrinair cryf - https://www.ncsc.gov.uk/blog-post/three-random-words-or-thinkrandom-0
Cyngor ar aros yn ddiogel ar-lein - https://www.ncsc.gov.uk/collection/top-tips-for-staying-secure-online/password-managers
Cyfrif Twitter Seiber - https://twitter.com/GPCyberCrime