Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gellir rhoi PSPO ar waith i helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau a godir gan y gymuned leol sy’n achosi niwed i’r ardal neu yn effeithio ar ansawdd bywyd trigolion.
Gweithiodd swyddogion gyda Chyngor Torfaen i roi’r gorchymyn blwyddyn gyfan ar waith y llynedd, gan wahardd pysgotwyr rhag pysgota ar hyd y 200m ar hyd Broadweir Road rhwng tair pont ar y gamlas.
Mae ein tîm #troseddau gwledig wedi ymroi i warchod tir, bywyd gwyllt ac anifeiliaid a gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael a throseddau fel potsio, dwyn tanwydd a phoeni da byw.
Meddai PC Mark Powell:
"Wrth i’r tywydd wella ac i lawer ohonon ni dreulio mwy o amser yn yr awyr agored yn ein mannau cyhoeddus yng Ngwent, rydym eisiau atgoffa trigolion a physgotwyr sy’n teithio i Gwmbrân bod gwaharddiad ar bysgota ar waith ar ran fechan o’r gamlas ar hyd Broadweir Road.
"Rwy’n siŵr bydd pawb yn falch iawn bod pedwar cyw alarch wedi deor yn yr ardal yn ddiweddar ac mae’r pedwar yn gwneud yn dda iawn. Byddant yn mentro allan o’r nyth i’r gamlas yr wythnos hon felly gofynnaf i bysgotwyr weithio gyda ni i ddilyn y gwaharddiad ar y rhan hon o’r gamlas.
"Mae offer a gwastraff pysgota wedi’i adael yn gallu bod yn beryglus i fywyd gwyllt lleol ond, gyda’ch cymorth chi, gallwn leihau’r perygl i’r cywion alarch a rhywogaethau eraill a warchodir ar y gamlas. Parchwch yr angen am y gwaharddiad er mwyn i ni osgoi camau gorfodi.”
I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith yn amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau gwledig yng Ngwent, ewch i: https://www.gwent.police.uk/advice/advice-and-information/rc/rural-crime/what-is-rural-crime/