Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am dystion ar ôl derbyn adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd yn Christchurch Road, Casnewydd tua 7.15pm ddydd Sul 1 Mai.
Aeth swyddogion allan i gynorthwyo i reoli traffig, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gar - Citroen C3 a Volkswagen Polo - a gwrthdarodd y Polo gyda wal hefyd.
Aethpwyd â dau o bobl – dyn 22 oed a menyw 21 oed o Gasnewydd, y ddau ohonynt yn teithio yng nghefn y Polo – i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i gael triniaeth.
Cafodd y dyn anaf i’w ben a chafodd y fenyw anaf i’w chefn.
Mae’r ddau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ond gallai eu hanafiadau fod yn rhai sy’n newid bywyd.
Ni chafodd y teithiwr yn sedd flaen y Polo, dyn 24 oed o Gasnewydd, ei anafu.
Yn ôl pob sôn, gadawodd gyrrwr y Polo, dyn yn ei ugeiniau, y safle yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae ymholiadau’n parhau i ganfod y person hwn er mwyn iddo ein helpu gyda’n hymchwiliad.
Yn ôl y disgrifiad mae o hil gymysg, tua 5’ 9” o daldra ac roedd yn gwisgo siaced “puffa” glas golau gyda llewys glas tywyll, esgidiau du a throwsus du.
Rydym yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys delweddau CCTV neu gamera car, i gysylltu â ni.
Yn ôl y sôn, gwelwyd y Polo yn y maes parcio yn nhafarn y Bull yng Nghaerllion tua 5pm ddydd Sul 1 Mai.
Hoffem siarad â’r dyn hwn a welwyd yn yr ardal ar y pryd a all fod â gwybodaeth am y bobl a oedd yn teithio yn y car.
Hoffai swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad siarad ag unrhyw un a oedd yn Christchurch Road rhwng 7pm a 8pm ddydd Sul 1 Mai.
Gall unrhyw un â manylion ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2200144212.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw hefyd trwy ffonio 0800 555 111.