Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:59 24/11/2022
Rydyn ni’n apelio am wybodaeth am wrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd tua 9.15pm ar Gylch Ringland yng Nghasnewydd ddydd Sul 20 Tachwedd.
Tarodd un car, Volkswagen Golf arian, yn erbyn pedwar car wedi parcio ac yna gadawodd y safle heb aros. Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Hoffai swyddogion siarad â’r dyn hwn, yr ydym yn credu oedd yn yr ardal ar y pryd ac a allai ein helpu gyda’n hymholiadau.
Os gallwch chi helpu, ffoniwch ni ar 101, gan grybwyll 2200392692, neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom ni.