Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hoffai swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad siarad ag unrhyw un a oedd ar yr A4136 ger Trefynwy rhwng 4.30pm a 5pm ddydd Mercher 16 Tachwedd.
Rydym yn apelio am dystion yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad traffig ffordd ar yr A4136 ger Staunton Road am tua 4.50pm ddydd Mercher 16 Tachwedd.
Aeth swyddogion i’r lleoliad, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Hyundai i10 arian a fan Nissan gwyn.
Cadarnhaodd y parafeddygon fod gyrrwr y car, menyw 94 oed, wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae ei theulu agos wedi cael gwybod ac maen nhw’n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw fodurwyr â deunydd dashcam a oedd yn defnyddio’r A4136 Staunton Road ger Trefynwy rhwng 4.30pm a 5pm i gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ar 101 neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu’r cyfeirnod log 2200388100 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.