Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd swyddogion o'n huned Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol allan ar ein ffyrdd yn rhan o wythnos diogelwch ar y ffyrdd i gadw pobl Gwent yn ddiogel ar y ffyrdd.
Yn dechrau dydd Llun 14 Tachwedd, bydd y tîm yn gweithio gyda phartneriaid yn GanBwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, i gymryd safiad cadarn yn erbyn rheini sy'n dewis rhoi pobl eraill mewn perygl ar y ffyrdd trwy yrru’n beryglus.
Yn ystod yr wythnos o ymgyrchu cenedlaethol i atal a chodi ymwybyddiaeth o yrru peryglus, byddwn yn cynyddu patrolau, gwirio cerbydau a gyrwyr a rhannu negeseuon addysgol am ddiogelwch ar y ffyrdd.
Bydd swyddogion yn mynd i'r afael â phobl sy'n rhoi pobl eraill mewn perygl trwy gyflawni un o'r 'pump marwol' - gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, goryrru, gyrru diofal, gyrru heb wisgo gwregys diogelwch neu ddefnyddio ffôn symudol wrth y llyw.
Bydd y timau'n gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau partner hefyd i atal pobl sy'n gyrru cerbydau nad ydynt yn addas ar gyfer y ffordd.
Bydd swyddogion yn cadw llygad am ddiffygion/problemau fel:
Bydd y rheini sy'n cael eu dal yn cyflawni'r troseddau hyn yn cael hysbysiad trosedd traffig ac, os yn berthnasol, byddant yn cael cyfle i unioni eu cerbydau ar y safle cyn gyrru i ffwrdd.
Meddai Rhingyll Derek Kitcher, y swyddog sy'n arwain yr ymgyrch hwn:
"Er bod llawer o fodurwyr yn gyrru'n ofalus ac o fewn y gyfraith, mae rhai yn gyrru'n ddiofal ac yn peryglu defnyddwyr eraill y ffyrdd a cherddwyr.
"Trwy gymryd rhan yn yr ymgyrch hwn, rydyn ni'n gobeithio dysgu gyrwyr am ddiogelwch ar y ffyrdd a lleihau nifer yr anafiadau ar ein ffyrdd.
"Bydd pobl sy'n cael eu dal yn gyrru'n beryglus yn cael eu herlyn, a bydd pobl sy'n gyrru cerbydau nad ydynt yn addas ar gyfer y ffordd yn cael hysbysiadau trosedd traffig a gorchymyn i unioni'r broblem."
Meddai Cwnstabl Heddlu Thomas Purdue, swyddog GanBwyll:
“Bydd GanBwyll yn cymryd rhan yn wythnos diogelwch ar y ffyrdd Brake ac yn defnyddio'r cyfle i bwysleisio'r cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom ni i gadw ein gilydd yn ddiogel ar y ffyrdd - sut bynnag rydyn ni'n eu defnyddio nhw.
"Bydd ein cerbydau yn cynnal gwaith gorfodi ledled Cymru a bydd ein timau gweithredol yn gweithio gyda phartneriaid gydol yr wythnos, yn helpu i addysgu defnyddwyr y ffyrdd, wrth i ni barhau i weithio i leihau anafiadau ledled Cymru."
Yn ogystal ag archwilio cerbydau, bydd swyddogion hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag offthalmolegwyr a fydd yn cynnal profion llygaid ar ochr y ffordd.
Os bydd gyrwyr yn methu'r profion hyn, bydd eu trwydded yn cael ei hatal dros dro a bydd y DVLA yn cael ei hysbysu - wedyn bydd rhaid iddynt fynd am apwyntiad gydag optegydd.
Meddai Uwch-arolygydd Mike Richards:
"Yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig, bydd mwy o bobl ar ein ffyrdd. O siopa Nadolig i ymweld â'r teulu, mae'n amser prysur o'r flwyddyn i lawer o bobl.
"Gydol y flwyddyn, rydyn ni'n cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd ac ymgyrchoedd parhaus i bwysleisio un neges syml: peidiwch â pheryglu eich bywyd, na bywydau pobl eraill, trwy yrru'n beryglus.
"Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid 365 diwrnod y flwyddyn i gadw ffyrdd Gwent yn ddiogel."
Daw'r ymgyrch ychydig wythnosau cyn i'r tîm Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol ddechrau ar eu hymgyrch Nadolig, pan fydd swyddogion yn brysur yn ceisio addysgu gyrwyr ledled y wlad am ddiogelwch ar y ffyrdd. Bydd swyddogion yn cynnal mwy o hapwiriadau ar ochr y ffordd, yn ogystal â thargedu troseddwyr hysbys ac ardaloedd problemus.
Byddwch yn ddiogel ar y ffyrdd
Yn ystod y misoedd oer a gwlyb, mae'n hollbwysig eich bod yn sicrhau nad oes unrhyw ddiffygion ar eich cerbyd. Gwnewch yn siŵr bod eich teiars yn addas ar gyfer y tywydd gwlyb a rhewllyd a bod gafael da arnynt.
Os gwelwch chi rywun yn gyrru'n beryglus, neu os ydych chi'n credu bod rhywun yn gyrru dan ddylanwad, ffoniwch 101 neu riportiwch y mater ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.