Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y gorchymyn mewn grym rhwng 4pm dydd Iau 3 Tachwedd a 4pm dydd Sadwrn 5 Tachwedd, yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ringland.
Bydd gorchymyn gwasgaru ar gyfer rhannau o Gasnewydd yn dod i rym am 4pm heddiw (dydd Iau 3 Tachwedd) yn dilyn nifer o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y gorchymyn mewn grym tan 4pm dydd Sadwrn 5 Tachwedd a bydd yn cynnwys rhannau o Ringland.
Mae'r ardaloedd sy'n rhan o'r gorchymyn yn cynnwys Canolfan Ringland, Milton Court a'r ffyrdd o amgylch fel y dangosir ar y map isod.
Meddai Arolygydd Shaun Conway:
"Yn dilyn adroddiadau gan drigolion a busnesau yn yr ardal am ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym wedi cyhoeddi'r gorchymyn gwasgaru hwn. Mae ein swyddogion wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau a byddant yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n benderfynol o achosi niwed neu anhrefn.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac os gwelwch chi ni ar batrôl, arhoswch i siarad â ni.
"Fel arall gallwch riportio eich pryderon trwy ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter."
Mae gorchmynion gwasgaru'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os ydynt yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n afreolus, os ydynt yn aflonyddu, dychryn neu'n peri gofid i aelodau'r cyhoedd, neu os yw eu hymddygiad yn debygol o arwain at hynny.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.