Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri phrosiect ymgysylltu ag ieuenctid ar waith yn Alway, Casnewydd, i geisio taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella ymwybyddiaeth o ganlyniadau troseddau cyllyll a cham-fanteisio ar blant, a meithrin cysylltiadau cadarnhaol â’r heddlu.
Ailddechreuodd dri phrosiect ymgysylltu ag ieuenctid, a gyflawnwyd gan Heddlu Gwent a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd, yn ystod wythnos hanner tymor.
Nod y mentrau, sydd wedi’u hariannu’n rhannol drwy arian y mae Heddlu Gwent a phartneriaid wedi’i sicrhau oddi o gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref, yw meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng yr heddlu a phobl ifanc, datblygu sgiliau bywyd a gwella ymwybyddiaeth o effaith trais a throseddau cyllyll ar ddioddefwyr a'r gymuned ehangach.
Dywedodd y Prif Arolygydd Hannah Lawton, sy’n arwain gwaith Strydoedd Saffach Gwent:
“Mae Heddlu Gwent wedi ymrwymo i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais a throseddau cyllyll, ac yn parhau i ymgysylltu â chymunedau ledled Gwent i amddiffyn pobl agored i niwed a chodi ymwybyddiaeth o effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau trais ar gymunedau.”
Yn gynharach y mis hwn, gosodwyd Yr Angel Cyllyll, cerflun enfawr wedi’i wneud o fwy na 100,000 o gyllyll, yn Friars Walk, Casnewydd, i atgoffa pobl am effaith ddinistriol trais ac ymddygiad ymosodol ac annog trafodaeth ynglŷn ag effaith troseddau cyllyll.
Ychwanegodd CI Lawton:
“Mae’n bwysig bod ymgysylltiad ac addysg ar y pynciau hyn yn dechrau ar oedran ifanc, felly gellir defnyddio’r cyllid ychwanegol a gawn o’r prosiect Strydoedd Saffach i gefnogi’r tri phrosiect yn Alway a’n helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymgysyllti â’r rhai sydd mewn perygl o droseddu, ac atal troseddau treisgar.
“Mae gweithdai The Blade Project a gyflwynir gan ein tîm NXT GEN a phartneriaid y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, yn amlygu risgiau troseddau cyllyll, yn addysgu pobl am effaith troseddau cyllyll, sut i ddarparu cymorth cyntaf, a chaniatáu i’r rhai sy’n cwblhau’r cwrs gyflawni cymwysterau addysgol.
“Yn y cyfamser, mae’r fenter REALL Girls, yn grŵp holl gynhwysol i ferched ifainc sy’n byw yn Alway, gyda’r nod o’u hatal rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, eu hamddiffyn rhag cam-fanteisio ac yn codi ymwybyddiaeth o arwyddion rhybudd o gam-drin.
“Mae’r prosiect Soul Trail, y trydydd sydd wedi’i gefnogi gan gyllid Strydoedd Saffach, yn darparu gweithdai i bobl ifanc ac yn canolbwyntio ar fagu hyder ac ysbryd cymunedol a chyflwyno adnoddau a all helpu i wella llesiant personol.
“Mae’r gweithdai’n cynnwys sesiynau ymgysylltu â natur sy’n ceisio datblygu cysylltiad rhwng pobl ifanc, eu hamgylchedd a’r gymuned, ac addysgu cyfranogion am ba bethau, fel maeth, all gael effaith gadarnhaol ar iechyd a ffordd o fyw gyffredinol.”
Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, aelod cabinet dros gynllunio strategol, rheoleiddio a thai yng Nghyngor Dinas Casnewydd:
“Trwy ein partneriaeth Casnewydd Saffach, mae’r cyngor, yr heddlu a phartneriaid eraill yn cydweithio i wella diogelwch y gymuned, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu cydweithredu unwaith eto ar gylch arall o gyllid Strydoedd Saffach, yn dilyn ymyraethau blaenorol yng nghanol y ddinas a Philgwenlli.
“Mae ymgysylltu â phobl ifanc yn hanfodol os ydym am daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r mentrau hyn yn enghreifftiau gwych o brosiectau cadarnhaol a all gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu eu cefnogi yn eu gwaith pwysig, ac yn gobeithio cael effaith gadarnhaol barhaol yn y gymuned leol.”
Bydd rhan o’r £746,702 a gafodd Heddlu Gwent yn ystod y cylch Strydoedd Saffach diweddaraf, sy’n cael ei ddefnyddio i helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cymdogaeth fel bwrgleriaeth, lladrata a dwyn ar draws chwe ardal yng Ngwent (Alway yng Nghasnewydd, y Coed Duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar) hefyd yn cael ei defnyddio ar brosiectau ymgysylltu ag ieuenctid yng Nghwmbrân, Brynmawr a Thredegar.
I gael gwybod mwy am waith Strydoedd Saffach Heddlu Gwent, ewch i https://www.gwent.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gwent/ardaloedd/ymgyrchoedd/ymgyrchoedd/2021/safer-streets/.