Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddiw (dydd Llun 14 Tachwedd) yn nodi dechrau Ymgyrch Sceptre, sef wythnos genedlaethol o weithredu i fynd i’r afael â throseddau cyllyll a thrais difrifol.
Drwy gydol yr wythnos, bydd swyddogion Gwent yn cynnal patrolau rhagweithiol ar draws ardal yr heddlu ac yn rhoi cyflwyniadau addysgiadol mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth o’r effaith ddinistriol y gall troseddau cyllyll a thrais difrifol ei chael ar gymunedau.
Bydd swyddogion hefyd yn ymweld â siopau ledled y wlad i drafod y cynllun gwerthwyr cyfrifol – menter a sefydlwyd y llynedd i sicrhau bod gan fanwerthwyr wiriadau cadarn ar waith i sicrhau y caiff cyllyll eu gwerthu’n ddiogel ac i bobl dros 18 oed yn unig.
Fel rhan o’r ymgyrch, mae biniau amnest hefyd wedi’u gosod mewn pum gorsaf heddlu yng Ngwent, sy’n caniatáu i bobl gael gwared â chyllyll yn ddiogel ac yn ddienw heb fod ofn cael eu herlyn.
Bydd y biniau yn y gorsafoedd canlynol:
Gofynnir i’r cyhoedd becynnu’r llafn cyn cael gwared â nhw yn y biniau fel bod modd eu tynnu oddi yno’n ddiogel.
Meddai’r Arolygydd Richard Tovey:
“Mae pob cyllell sy’n cael ei thynnu oddi ar y stryd yn gallu atal bywyd rhag cael ei golli, ac rydyn ni’n ymroddedig i fynd i’r afael â phob math o droseddau cyllyll a thrais difrifol.
“Yn ystod wythnos weithredu Ymgyrch Sceptre, byddwn ni’n ymgysylltu â’n cymunedau i godi ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau troseddau cyllyll.
“Eleni, mae’r wythnos yn digwydd tra bod cerflun yr Angel Cyllyll yng Nghasnewydd, ac mae addysg yn rhan bwysig o dynnu sylw at beryglon cario cyllyll.
“Byddwn ni’n ymweld ag ysgolion i siarad gyda disgyblion; bydd siarad gyda nhw ar oedran ifanc yn dangos iddyn nhw y peryglon mae cyllyll yn eu hachosi i’n cymunedau ac yn y pen draw yn atal troseddu.
“Er ein bod ni’n canolbwyntio ar droseddau cyllyll yn ystod Ymgyrch Sceptre, mae mynd i’r afael â throseddau cyllyll yn rhan o waith plismona bob dydd.
“Mae ein swyddogion yn cynnal patrolau ar sail cudd-wybodaeth yn rheolaidd er mwyn atal troseddu ac amlygu’r bobl a allai gyflawni trosedd dreisgar.
“Does dim esgusodion pam ddylai rhywun gario cyllell.
“Bydd unrhyw un sy’n cario cyllell, waeth beth yw’r rheswm, yn cael eu stopio, eu chwilio, a bydd yr arf yn cael ei dynnu o’n cymunedau.”
Os oes gan unrhyw un wybodaeth am bobl sy’n rhan o droseddau cyllyll neu unrhyw bryderon, ffoniwch ni ar 101 neu anfonwch neges uniongyrchol aton ni drwy Facebook neu Twitter. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555 111. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.