Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd ein blogiau DYDID misol yn rhoi cipolwg i chi ar waith y tîm, y gwaith mae'n ei wneud gyda phartneriaid a sut rydyn ni'n gweithio i fynd i'r afael â throseddau meddiangar.
Byddwn hefyd yn dathlu'r gwasanaethau hanfodol sy'n cael eu cynnig i'ch cefnogi chi, dioddefwyr trosedd, a'n cymunedau ehangach.
Yn y rhifyn cyntaf hwn, rydyn ni'n canolbwyntio ar y gwaith pwysig mae'r tîm wedi bod yn ei wneud ledled Gwent. Ym mis Medi cafwyd cwymp nodedig yn nifer y troseddau meddiangar ledled Gwent - gan gynnwys lleihad mewn byrgleriaeth preswyl, byrgleriaeth masnachol, troseddau cerbydau, dwyn o siopau a lladrad.
Mae'r tîm Dangos y Drws i Drosedd wedi bod yn gweithio'n galed gyda thrigolion ledled Gwent yn:
Hyd yn hyn, mae'r tîm wedi adennill gwerth £152,447 o eiddo diolch i farcio fforensig ac wedi hyfforddi dros 1,000 o bobl i adnabod arwyddion troseddau meddiangar.
Meddai Arolygydd Carl Morgan:
"Mae'r tîm DYDID yn defnyddio amryw o dechnegau i fynd i'r afael â throseddau meddiangar difrifol a threfnedig yn defnyddio technoleg fel SmartWater ac asedau cudd.
"Nod yr adran yw targedu'r troseddwyr mwyaf mynych sy'n achosi'r niwed mwyaf i'n cymunedau, a gwneud ein cymdogaethau'n llefydd diogel i fyw ynddynt.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y blog hwn yn helpu pobl i amddiffyn eu hunain, ac eraill, rhag troseddau meddiangar."
Ar gyfer wythnos genedlaethol troseddau busnes, aeth y tîm i ymweld â dros 45 o fusnesau a danfon 37 pecyn atal trosedd.
Roedd SmartWater yn y pecynnau, sef technoleg marcio fforensig. Mae'n galluogi perchnogion busnes i farcio eu heitemau, wedyn os byddant yn cael eu dwyn, byddwn yn gallu eu hadnabod nhw wrth y marciau.
Croesawodd y tîm Gwnstabl Heddlu Helen Moss fel swyddog busnes. Un o'i gorchwylion cyntaf gyda'r tîm oedd ymweld ag eglwys ar ôl byrgleriaeth.
Rhoddodd Cwnstabl Heddlu Moss gyngor atal trosedd a phecynnau gyda SmartWater am ddim i'r clerigwyr.
Rhan o waith tîm DYDID yw hyfforddi aelodau'r gymuned. Mae ein hyfforddwyr yn creu pecynnau pwrpasol er mwyn hyfforddi gwahanol gynulleidfaoedd a sectorau.
Yn gynharach yn y mis, rhoddodd ein hyfforddwyr ymwybyddiaeth o drosedd hyfforddiant i'r tîm Helping Caring i adnabod arwyddion cam-fanteisio ar oedolion.
Ein partneriaid, digwyddiadau a'r gymuned.
Mae tîm DYDID yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid gydol y flwyddyn i adnabod tueddiadau trosedd, sicrhau bod gwaith atal yn ei le, cefnogi dioddefwyr trosedd ac adnabod y bobl sy'n eu cyflawni nhw yn ein cymunedau.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill ganddyn nhw ac i wybod lle maen nhw yn y gymuned, dilynwch y tîm ar Twitter neu ewch i'w tudalen ar ein gwefan.
Os hoffech chi ddysgu mwy am sut gall y tîm eich helpu chi, anfonwch e-bost at WeDon'[email protected].
Os ydych chi'n gweld trosedd yn cael ei chyflawni, ffoniwch 101, defnyddiwch ein system riportio ar-lein, neu anfonwch neges atom ni ar Facebook a Twitter.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.