Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Ryan Stephens, 33, i dair blynedd o garchar ar ôl iddo bledio'n euog i droseddau cyffuriau yn y llys.
Ymddangosodd Ryan Stephens, 33, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 3 Tachwedd lle plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cocên, un cyhuddiad o feddu ar grac cocên gyda bwriad o gyflenwi ac un cyhuddiad o feddu ar eiddo troseddol.
Meddai Cwnstabl Heddlu Lauren Poole, y swyddog yn yr achos:
“Mae'r Tîm Tarfu ar Droseddau Trefnedig Difrifol wedi ymroi i fynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau a throseddau trefnedig yn ein cymunedau ac rydym yn croesawu'r ddedfryd a roddwyd gan y llys yn yr achos hwn.
"Wrth fynd i'r afael â'r mathau hyn o droseddau, rydym yn cael ein harwain nid yn unig gan yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu trwy ein hymchwiliadau, ond hefyd gan yr wybodaeth hollbwysig mae'r cyhoedd yn ei rhoi i ni trwy eu hadroddiadau.
"Gofynnwn yn daer ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth neu bryderon i siarad â ni drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng.
"Os ydych chi'n pryderu am gyfrinachedd, ystyriwch gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111."