Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau cyfnod y Nadolig, a chael amser hapus a diogel. Byddwn yn rhannu calendr adfent atal trosedd gyda chi o'r 1af i'r 25ain o Ragfyr gydag awgrymiadau ar gyfer atal trosedd.
Yn y calendr adfent hwn byddwn yn rhannu cyngor gan amrywiaeth eang o dimau yn Heddlu Gwent, gan gynnwys ein timau plismona cymdogaeth, y tîm atal trosedd, yr uned plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol, arbenigwyr ar seiberdrosedd a llawer mwy.
I weld beth sydd y tu ôl i bob drws, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook, Twitter ac Instagram.
Mae cyfnod y Nadolig yn un o adegau prysuraf y flwyddyn i blismona ledled y DU, bydd mwy o bobl yn ffonio ystafell gyswllt a rheoli'r heddlu a gall hynny arwain at amseroedd aros hwy.
Helpwch ni i fod yna i'r bobl sydd angen cymorth go iawn trwy ystyried yn ofalus pwy y dylech chi siarad â nhw.
I riportio digwyddiadau nad ydyn nhw’n rhai brys, ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol.
I riportio digwyddiad lle mae bygythiad i fywyd rhywun, ffoniwch 999 bob tro.
Gallwch riportio trosedd neu ymddygiad amheus trwy gysylltu â Crimestoppers hefyd ar 0800 555 111 neu ar y wefan https://crimestoppers-uk.org/.
I riportio unrhyw broblemau fel tipio anghyfreithlon, cŵn yn baeddu neu sŵn sy'n peri niwsans, cysylltwch â'ch cyngor lleol. Dewch o hyd i'ch cyngor lleol yma.
Bydd Canolfan Derbynfa Alcohol yn gweithredu yng nghanol dinas Casnewydd ar nos Wener a nos Sadwrn tan oriau mân y bore dros gyfnod yr Ŵyl. Bydd y ganolfan hon yn edrych ar ôl pobl sydd yn sâl neu wedi anafu a bydd yn gallu trin a rhyddhau pobl ag anafiadau llai difrifol yn y fan a'r lle. Bydd hyn yn lleihau ychydig o'r pwysau ar y GIG.