Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd yr heddlu y bu’n llwyddiannus wrth sicrhau cyllid ychwanegol o gynllun Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref – rhaglen sy’n rhoi cyfle i heddluoedd ledled Cymru a Lloegr i wneud cais am gyllid i gynorthwyo â gwaith atal troseddau.
Er bod Heddlu Gwent yn gweithio drwy’r flwyddyn gron i ddiogelu cymunedau rhag effaith troseddau a thargedu’r sawl sy’n troseddu, mae’r cyllid hwn yn rhoi mwy o arian iddyn nhw allu cyflawni nifer o ymyriadau.
Bydd y £746,702 a gafodd Heddlu Gwent yn ystod y cylch diwethaf yn cael ei ddefnyddio i helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cymdogaeth fel bwrgleriaeth, lladrata a dwyn ar draws chwe ardal yng Ngwent – Alway yng Nghasnewydd, y Coed Duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.
Fel rhan o hyn, bydd y tîm yn cynnal nifer o gymorthfeydd lle gall trigolion o’r ardaloedd hyn gwrdd â swyddogion dysgu mwy am sut mae’r heddlu’n taclo troseddau a chael pecynnau atal troseddau am ddim.
Bydd y cyntaf o’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yng Ngorsaf Heddlu Alway rhwng 10am a 2pm ddydd Mawrth 18 a dydd Mercher 19 Hydref.
Gall y rhai hynny sy’n byw yn Alway ymweld â’r orsaf i siarad â swyddogion am y prosiect Strydoedd Saffach, atal troseddau, a chyhyd â’u bod yn darparu prawf o’u cyfeiriad, pecyn atal troseddau am ddim.
Dywedodd y Prif Arolygydd Hannah Lawton, sy’n arwain y prosiect yng Ngwent:
“Rydym yn falch o gyhoeddi’r gymhorthfa Strydoedd Saffach nesaf yng Ngwent ac yn edrych ymlaen at gwrdd â thrigolion yn Alway i egluro beth fyddwn yn ei wneud dros y misoedd nesaf yn rhan o’r cynllun.
“Er bod ein swyddogion yn gweithio bob dydd i ddiogelu’n cymunedau rhag troseddau fel bwrgleriaeth, mae’r fenter Strydoedd Saffach yn rhoi mwy o arian i ni na fyddem ni’n ei gael fel arfer a gallwn ddefnyddio hwn i brynu offer atal troseddau ar sail tystiolaeth ac ariannu ymyriadau fel hyn.
“Yr wythnos nesaf, gall y rhai sy’n byw yn Alway ddysgu mwy am y prosiect, siarad â swyddogion am unrhyw bryderon sydd ganddynt yn eu cymunedau a chael pecyn atal troseddau a chyngor am ddim.
“Gall y pecynnau gynnwys nifer o eitemau gan gynnwys pecynnau fforensig i farcio eiddo, arwyddion ac offer atal a all helpu i ddiogelu’ch cartrefi, ceir ac eitemau gwerthfawr – eitemau fel larymau ffenestri neu sied, pecynnau diogelwch rhif car, pocedi atal signal ceir diallwedd a mwy.
“Bydd swyddogion o’r tîm wrth law i siarad â thrigolion am y pecynnau, darparu cyngor ar gynyddu diogelwch a sut i atal lladron, yn ogystal â sut arall y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio yn Alway a chymunedau eraill yn ardal Heddlu Gwent.”
Os ydych yn dod o’r ardal ond yn methu â dod i’r digwydd ddydd Sadwrn, anfonwch e-bost i [email protected] i gael gwybod sut y gallwch gael pecyn.
I gael rhagor o wybodaeth am waith Strydoedd Saffach yng Ngwent, ewch i https://www.gwent.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gwent/ardaloedd/ymgyrchoedd/ymgyrchoedd/2021/safer-streets/