Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd ein cerbydau tuk-tuk yn cael eu defnyddio yn ystod y dydd a’r nos, ac yn cael eu gyrru gan ein swyddogion a’n ‘llysgenhadon’.
Mae pedwar cerbyd tuk-tuk, sydd wedi’u cyflwyno yng Nghasnewydd a’r Fenni fel ‘mannau diogel’ i’r rhai sy’n byw yng Ngwent neu’n ymweld â’r ardal, ar gael bellach i roi cyngor ar atal troseddu, adrodd am ddigwyddiadau a gofyn am gymorth os ydych yn teimlo’n anniogel.
Bydd ein cerbydau tuk-tuk yn cael eu defnyddio yn ystod y dydd a’r nos, ac yn cael eu gyrru gan ein swyddogion a’n ‘llysgenhadon’ fel y rhai sy’n cael eu cyflogi gan Newport NOW fel rhan o fenter Cyngor Dinas Casnewydd. Bydd y cerbydau tuk-tuk yn cael eu defnyddio i batrolio parciau, llwybrau cerdded a mannau cyhoeddus eraill ledled Casnewydd a’r Fenni.
Dywedodd y Prif Arolygydd Damian Sowrey:
Roedden nhw i’w gweld yn ein diwrnod Y Tu ôl i’r Bathodyn, gan roi cyfle i drigolion lleol eu gweld yn agos ac i glywed mwy am sut y byddan nhw’n cael eu defnyddio. Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol gyda rhieni’n dweud wrth swyddogion y bydden nhw’n teimlo’n fwy diogel o wybod bod cymorth i bobl ifanc allan yn y nos, a gan fenywod a oedd yn gallu meddwl am achlysur pan fyddai gweld tuk-tuk wedi ei groesawu.
Mae’r cerbydau tuk-tuk wedi eu hariannu fel rhan o raglen Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref. Darllenwch fwy am Strydoedd Mwy Diogel yma.