Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llinellau cyffuriau yw’r enw a roddir ar ddelio cyffuriau lle mae grwpiau troseddau trefnedig yn symud a chyflenwi cyffuriau, fel arfer o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig.
Mae’r gweithredu wedi cyd-daro ag “wythnos dwysau” cenedlaethol dan arweiniad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Cynhaliwyd yr wythnos ddiweddaraf o weithredu rhwng dydd Llun 3 Hydref a dydd Gwener 10 Hydref.
Mae uchafbwyntiau’r hyn a gyflawnwyd gan y tri heddlu (De Cymru, Gwent a Dyfed Powys), yn cynnwys y canlynol:
Bu swyddogion hefyd yn ymgysylltu â phlant, rhieni a gweithwyr proffesiynol i dynnu sylw at beryglon ymwneud â gweithgareddau Llinellau Cyffuriau, a chyflwynwyd sesiynau ymwybyddiaeth Llinellau Cyffuriau i dros 1,000 o bartneriaid amlasiantaeth a 11,000 o blant.
Meddai Ditectif Arolygydd Richard Weber, cyd-gysylltydd yr wythnos o weithredu yn ne Cymru:
“Er ein bod ni’n gweithio gydol y flwyddyn i waredu ein strydoedd o gyffuriau, mae’r wythnos hon wedi arwain at rai canlyniadau sylweddol. Trwy darfu ar linellau cyflenwi a chymryd y rhai sy’n gyfrifol allan o’r cylchrediad cyflenwi, gallwn wneud cymunedau de Cymru’n fwy diogel.
“Ni allwn wneud hyn heb y gefnogaeth a’r wybodaeth rydym yn ei chael gan drigolion felly gofynnaf yn daer ar unrhyw un â gwybodaeth am ddelio cyffuriau yn ei gymuned i’n ffonio ni ar 101. Mae pob darn o wybodaeth yn bwysig i ni.”