Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ddiweddar cymerodd Heddlu Gwent ran mewn wythnos o ymgyrchu a chamau gorfodi i dargedu masnachwyr sy'n torri'r gyfraith ac yn manteisio ar drigolion agored i niwed.
Mae Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus wedi bod ar waith ers 2006 ac mae heddluoedd ledled y wlad yn gweithio gydag awdurdodau lleol, safonau masnach, Cyfoeth Naturiol Cymru, y DVSA a mwy i darfu ar fasnachwyr twyllodrus a chymryd camau gorfodi yn eu herbyn mewn wythnos o weithgarwch pwrpasol.
Nod yr ymgyrch yw amddiffyn pobl agored i gam-fanteisio gan fasnachwyr twyllodrus, lleihau nifer y digwyddiadau masnachu twyllodrus, atal nwyddau ffug rhag cael eu gwerthu, cynyddu diogelwch ar y ffyrdd a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau ar garreg y drws.
Rhwng dydd Llun 17 a dydd Gwener 21 Hydref, cynhaliodd swyddogion archwiliadau diogelwch ar gerbydau masnachwyr, aethant ar batrolau gyda phartneriaid awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag achosion o dorri amodau trwyddedu a gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgysylltu â chludwyr gwastraff a sgrap.
Aeth timau plismona cymdogaeth i ymweld â chymunedau hefyd i roi cyngor ac arweiniad i'r cyhoedd ynghylch cadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel rhag masnachwyr sy’n cymryd mantais.
Dros y pum diwrnod, gweithiodd Heddlu Gwent gydag asiantaethau partner i gynnal ymgyrchoedd a phatrolau ar sail cudd-wybodaeth ac, yn rhan o'r gwaith, gwelwyd y canlyniadau canlynol:
Meddai Rhingyll Annalea Kift:
"Mae masnachwyr twyllodrus yn aml yn anonest, manteisgar ac yn targedu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau er mwyn gwneud symiau mawr o arian am waith diangen a drud.
"Mae'n hanfodol ein bod yn atal, yn tarfu ar fasnachwyr twyllodrus ac yn cymryd camau gorfodi yn eu herbyn, ac mae ein neges iddynt yn syml: p'un a ydych yn defnyddio cerbydau nad ydynt yn addas ar gyfer y ffordd, yn manteisio ar gwsmeriaid sy'n agored i niwed drwy godi tâl am waith diangen, neu’n gwerthu nwyddau ffug, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddiogelu'r cyhoedd."
Cadwch y tacle allan o’ch catre | pum awgrym a rannwyd gan swyddogion drwy gydol yr wythnos