Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n apelio am dystion ar ôl derbyn adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A4048, rhwng Peacehaven a Llwyncelyn tua 8.20am ddydd Sadwrn 15 Hydref.
Aeth swyddogion i’r lleoliad i helpu i reoli traffig, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Un car oedd yn y gwrthdrawiad, Mini Cooper arian a yrrodd i mewn i wal.
Aethpwyd â’r gyrrwr, dyn 34 oed o Gasnewydd, i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i gael triniaeth.
Mae mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty er y credir bod ei anafiadau’n rhai sy’n newid bywyd.
Rydyn ni’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys delweddau CCTV neu gamera car, i gysylltu â ni.
Gall unrhyw un â manylion ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2200349441.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw gyda gwybodaeth drwy ffonio 0800 555 111.