Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dros 40 o gerbydau eu stopio yng Nghasnewydd yr wythnos hon mewn mesur llym yn erbyn troseddau moduro.
Nod Ymgyrch Utah yw nodi cerbydau sy’n cael eu gyrru’n anghyfreithlon neu nad ydynt yn ddiogel ar gyfer y ffordd.
Cynhaliwyd yr ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd ddoe, dydd Llun 10 Hydref gan gynnwys swyddogion o’r uned plismona’r ffyrdd, yr adran gŵn, y tîm troseddau gwledig, swyddogion ymateb a’r swyddogion gwirfoddol. Ymunodd ein partneriaid o’r DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) â’r swyddogion hefyd.
Roedd y canlyniadau’n cynnwys y canlynol:
🔹 40 o gerbydau wedi’u harchwilio
🔹 26 o droseddau traffig wedi’u cofnodi
🔹 82 o droseddau goryrru
🔹 15 o droseddau traffig oherwydd llwythi ansefydlog neu dros eu pwysau
🔹 wyth o droseddau wedi’u nodi oherwydd cyflwr y cerbyd
🔹 dau rif car anghyfreithlon
🔹 pedwar o bobl wedi’u harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau
🔹 saith o gerbydau wedi’u hatafaelu am fod heb yswiriant
🔹 chwech o droseddau traffig am yrru heb wisgo gwregys diogelwch
🔹 un arestiad am fod â chyffuriau yn ei feddiant
Cafodd yr Asiantaeth Gwasanaeth Cerbydau a Gweithredwyr y canlyniadau canlynol hefyd:
🔹 21 o waharddiadau ar unwaith
🔹 7 o waharddiadau wedi’u hoedi
🔹 3 hysbysiad o archwiliadau
Dywedodd PC Haydock o’r uned Plismona’r Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol:
“Rwy’n gobeithio bod canlyniadau’r ymgyrch hon yn anfon neges glir bod gyrru’n anghyfrifol neu beidio â chynnal cyflwr eich cerbyd yn annerbyniol a byddwn yn ymdrin â chi yn gadarn.
“Hoffem ddiolch i’n partneriaid am weithio gyda ni ar yr ymgyrch hon i wneud y ffyrdd yn ein cymunedau mor ddiogel â phosibl.
“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth sicrhau diogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd – rwy’n annog pob modurwr i yrru’n ofalus, yn gyfrifol ac o fewn terfynau’r gyfraith ac i sicrhau bod eu cerbydau mewn cyflwr da drwy’r amser.”
Os ydych yn pryderu am gerbydau nad ydynt yn ddiogel ar gyfer y ffordd neu sy’n cael eu gyrru’n anghyfreithlon, gallwch ein ffonio ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom.