Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn cefnogi ymgyrch Canolfan Troseddau Busnes Cenedlaethol (NBCC) i amddiffyn busnesau rhag troseddau.
Fel rhan o ymgyrch genedlaethol i gefnogi ac amddiffyn busnesau ledled y wlad, mae tîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled ardal yr heddlu yr wythnos hon — gyda'r nod o 'ymgysylltu â busnesau lleol, manwerthwyr a'r gymuned, i godi ymwybyddiaeth o droseddau busnes yn yr ardal.'
Mae’r tîm, sy’n targedu troseddau meddiangar fel bwrgleriaeth, dwyn a lladrad, yn cefnogi busnesau drwy gydol y flwyddyn, drwy rannu cyngor ar atal troseddau a diogelwch, darparu pecynnau marcio eiddo SmartWater i’r rhai y mae’r troseddau hyn yn effeithio arnynt, a thrwy weithio gyda manwerthwyr ail law i atal nwyddau sydd wedi’u dwyn rhag cael eu gwerthu.
Yn ystod Wythnos Troseddau Busnes NBCC (17 - 21 Hydref), bydd wythnos weithredu Gwent yn gweld swyddogion yn cynnal patrolau wedi’u targedu ledled yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn flaenorol gan droseddau meddiangar, ac yn gweithio gyda busnesau a phartneriaid lleol i godi ymwybyddiaeth o’r mesurau y gellir eu cymryd i atal troseddau a lladron.
Dywedodd y Rhingyll Kate Llewellyn: "Drwy gydol yr wythnos o weithredu, byddwn yn cynnal amrywiol weithgareddau atal troseddau ledled Gwent er mwyn siarad â busnesau am y pethau y gallant eu gwneud i wella diogelwch, amddiffyn eu hasedau ac atal lladron manteisgar.
"Byddwn yn siarad â manwerthwyr ar y stryd fawr a busnesau ar ystadau diwydiannol am amrywiaeth o gamau y gellir eu cymryd i wella diogelwch ac atal troseddau fel byrgleriaeth – troseddau a all gael effaith ddinistriol ar fusnesau a'r gymuned ehangach.
"Fel heddlu, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r rhai sy’n elwa ar droseddu, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymunedau, busnesau ac asiantaethau partner i adnabod troseddwyr a dod â nhw o flaen eu gwell."
Bydd y tîm wrth law i siarad â phobl fusnes ar y dyddiadau canlynol yr wythnos hon:
Bydd cyfrif Dangos y Drws i Drosedd (@GP_WDBC) yr heddlu yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch sy'n digwydd drwy gydol yr wythnos.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Heddlu Gwent yn mynd i’r afael â throseddau meddiangar yng Ngwent, ewch i: https://www.gwent.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gwent/ardaloedd/ymgyrchoedd/ymgyrchoedd/2021/we-dont-buy-crime/.