Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y gorchymyn mewn grym rhwng 6pm dydd Gwener 23 Medi a 6pm dydd Sul 25 Medi, yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.
Bydd gorchymyn gwasgaru ar gyfer rhannau o Gil-y-coed yn dod i rym am 6pm dydd Gwener 23 Medi yn dilyn nifer o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y gorchymyn mewn grym tan 6pm dydd Sul 25 Medi a bydd yn cynnwys Castell Cil-y-coed, canol y dref a strydoedd preswyl cyfagos.
Mae'r ardaloedd sy'n rhan o'r gorchymyn yn cynnwys Heol Casnewydd, Sandy Lane, Mill Lane, Heol Cas-gwent a'r ffyrdd o amgylch fel y dangosir ar y map isod.
Meddai Rhingyll Lee Smith-Stephens:
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ein cymunedau ac ni fydd yn cael ei oddef yng Ngwent.
"Mae ein swyddogion wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau a byddant yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n benderfynol o achosi niwed neu anhrefn.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac os gwelwch chi ni ar batrôl, arhoswch i siarad â ni.
"Fel arall gallwch riportio eich pryderon trwy ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter."
Mae gorchmynion gwasgaru'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os ydynt yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n afreolus, os ydynt yn aflonyddu, dychryn neu'n peri gofid i aelodau'r cyhoedd, neu os yw eu hymddygiad yn debygol o arwain at hynny.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.