Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd ein swyddogion yn gallu defnyddio SmartTag, hylif marcio fforensig, i gysylltu troseddwyr gyda throseddau sydd wedi cael eu riportio wrthym ni.
Bydd tacteg newydd yn cael ei chyflwyno i swyddogion ledled Gwent i'w helpu nhw i adnabod troseddwyr ar safle trosedd.
Mae SmartTag yn defnyddio tun gwasgeddedig i wasgaru llif o SmartWater, sylwedd marcio fforensig, i 'dagio' troseddwyr gyda chod fforensig unigryw sy'n eu cysylltu nhw gyda safle trosedd.
Bydd y ffordd newydd hon o ddefnyddio SmartWater yn gymorth i swyddogion pan fydd troseddwyr yn ceisio cuddio pwy ydyn nhw, yn arbennig yn ystod digwyddiadau sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, anhrefn, neu ddigwyddiadau’n ymwneud â defnyddio e-feiciau, e-sgwteri a beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithiol.
Dim ond diferyn o SmartWater sydd ei angen i brofi y tu hwnt i amheuaeth mai nhw oedd yr unigolyn ar safle’r drosedd.
Meddai Prif Uwch-arolygydd Carl Williams:
“Ar ôl cyflwyno a defnyddio ein ffurf newydd o SmartWater - SmartTag, rydyn ni'n gobeithio gweld llawer mwy o droseddwyr yn cael eu cysylltu gyda throseddau ledled Gwent.
"Rwyf yn gobeithio y bydd yn helpu i wneud ein cymunedau'n llefydd mwy diogel i bawb."
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 hefyd.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng