Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae Cwnstabl Heddlu Gavin Davies a'r tîm plismona cymdogaeth ym Mrynmawr yn gwahodd trigolion i ddigwyddiad atal trosedd yr wythnos yma.
Mae'r tîm yn cynnal digwyddiad ymgysylltu yn Asda, Brynmawr, rhwng 10am a 2pm ddydd Mercher 5 Ebrill, a byddant yno i siarad â siopwyr am y camau y gall pob un ohonom ni eu cymryd i gadw ein cartrefi, ein ceir a'n heiddo yn ddiogel.
Yn rhan o waith Strydoedd Saffach yr heddlu, mae swyddogion wedi bod yn cynnal digwyddiadau ledled Gwent ac yn rhoi pecynnau atal trosedd am ddim i'r cyhoedd.
Ydych chi'n byw ym Mrynmawr ac eisiau derbyn eitemau diogelwch gwych?
Mae'r pecynnau'n cael eu hariannu gan ymgyrch Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref, ac maen nhw'n cynnwys eitemau fel offer marcio eiddo, offer diogelu plât rhif cerbyd, larymau siediau, a mwy. Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud i dderbyn un ar y diwrnod yw dangos prawf o'ch cyfeiriad.
Yn ogystal â dosbarthu pecynnau am ddim ac esbonio sut i ddefnyddio pob eitem, bydd y tîm yn rhannu'r newyddion diweddaraf am y ffordd mae ein gwaith Strydoedd Saffach yn mynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymdogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith Strydoedd Saffach yng Ngwent, ewch i: Strydoedd Saffach | Heddlu Gwent.