Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwarant cyffuriau a weithredwyd yng Nghasnewydd wythnos diwethaf wedi arwain at arestio dau unigolyn.
Gweithredodd swyddogion warant mewn perthynas â chyfeiriad yn Wells Close, Casnewydd ddydd Gwener 4 Awst.
Cafodd dyn 75 oed a menyw 53 oed, y ddau ohonynt o ardal Casnewydd, eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A – crac cocên a heroin. Rhyddhawyd y ddau ohonynt tra bod ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Diolch i gymorth Ci Heddlu (CH) Freddie, atafaelwyd llawer iawn o heroin, crac cocên ac arian parod o'r eiddo.
Dywedodd y Swyddog yn yr achos, PC Max Lloyd:
“Gweithredwyd y warant hon yn dilyn pryderon yn y gymuned am ddefnyddio cyffuriau. Mae cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn cael effaith andwyol ar ein cymunedau, a byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n ymwneud â’r math hwn o droseddoldeb.
“Mae cefnogaeth a chymorth y gymuned leol yn hanfodol i’r gwaith hwn a byddwn i’n annog pobl i roi gwybod i ni am unrhyw weithgarwch amheus neu anarferol yn eu hardal er mwyn i ni allu cymryd camau gweithredu.
“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am gyflenwi neu ddefnyddio cyffuriau yn eich cymuned, ffoniwch ni ar 101, neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Fel arall, gallwch chi anfon neges uniongyrchol gyda gwybodaeth drwy dudalennau Facebook neu Twitter Heddlu Gwent.”