Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd ffatri canabis gyda rhyw 1,000 o blanhigion ei datgymalu gan swyddogion Torfaen ac arestiwyd dau ddyn.
Gweithredodd swyddogion warant mewn adeiladau masnachol gwag yn Stryd Ton Mawr, Blaenafon, ddydd Sul 27 Awst.
Yn dilyn chwiliad o’r adeilad, daethpwyd o hyd i ryw 1,000 o blanhigion canabis a chawsant eu hatafaelu gan swyddogion.
Arestiwyd dau ddyn, 28 a 31 oed, ar amheuaeth o gynhyrchu cyffur a reolir o ddosbarth B.
Yn ddiweddarach cafodd y dyn 28 oed ei gyhuddo o’r drosedd hon ac mae’r dyn 31 oed yn y ddalfa o hyd.
Meddai Cwnstabl Heddlu Danielle Lundrigan, y swyddog yn yr achos:
“Mae pob ffatri canabis rydyn ni’n ei datgymalu yn helpu i atal cylch dieflig o drosedd.
“Trwy darfu ar ffynhonnell y gweithgareddau, rydyn ni’n rhwystro pobl rhag gwerthu’r planhigion i’n cymunedau ac yn rhwystro pobl rhag defnyddio’r elw i ariannu mwy o drosedd.
“Rydyn ni wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau rhag cyffuriau a’r troseddau sy’n gysylltiedig â chyflenwi, y mae pob un ohonyn nhw’n gallu cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, cymunedau a busnesau lleol.
“Gofynnwn yn daer ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth neu bryderon am ddelio neu gyflenwi cyffuriau yn eu hardal i gysylltu â ni.”