Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Merch 15 oed ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
Bachgen 15 oed ar amheuaeth o gymryd cerbyd heb ganiatâd
Bachgen 14 oed ar amheuaeth o ddifrod troseddol
Bachgen 17 oed ar amheuaeth o ddifrod troseddol, troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ar sail hil, ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys ac ymgais i gyflawni difrod troseddol.
Daeth gorchymyn gwasgaru i rym ar gyfer rhannau o Rymni am 7.30pm ddydd Llun 21 Awst a bydd yn aros mewn grym tan 7.30pm ddydd Mercher 23 Awst. Mae’n cynnwys Stryd Fawr Rhymni, Goshen Street, Tan-y-Lan Terrace, Y Parc Coffa, Clwb Rygbi Rhymni a’r ardal o amgylch fel y dangosir ar y map isod.
Meddai Arolygydd Lysha Thompson, o dîm plismona cymdogaeth gogledd Caerffili:
“Rhoddwyd gorchymyn gwasgaru mewn grym yn Rhymni neithiwr yn dilyn adroddiadau pellach am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae’r ymchwiliad i ymddygiad gwrthgymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf yn parhau ac mae nifer o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymholiadau. Yn ogystal, rydyn ni’n gwybod am
17 o bobl ifanc a oedd yn yr ardal ac rydyn ni’n parhau i ymchwilio a byddwn yn ymdrin â phob un ohonyn nhw yn eu tro.
“Ni fyddwn yn goddef nac yn derbyn anhrefn neu aflonyddwch ar y lefel yma yn ein cymdogaeth, a byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n cael eu dal yn cyflawni’r troseddau hyn.
“Mae mwy o swyddogion heddlu yn yr ardal o hyd ac maen nhw’n barod i ddefnyddio’r pwerau ychwanegol a roddwyd iddyn nhw drwy’r gorchmynion gwasgaru hyn.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid i roi sylw i’r problemau hyn ac yn gofyn yn daer ar rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i siarad â’u plant a dweud wrthyn nhw nid yn unig bod eu hymddygiad yn cael effaith andwyol ar y gymuned maen nhw’n rhan ohoni, ond hefyd y gallai eu dyfodol nhw gael ei effeithio yn y pen draw gan unrhyw euogfarnau troseddol o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
Mae gorchmynion gwasgaru yn rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion gyfarwyddo grwpiau i adael ardal os ydynt yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anhrefn, os yw aelodau'r cyhoedd yn destun aflonyddu neu os ydynt wedi’u dychryn neu'n ofidus, neu os yw swyddogion o’r farn y gallai eu hymddygiad arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud oddi yno, byddant yn wynebu cael eu harestio.