Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni wedi arestio saith o bobl ar amheuaeth o droseddau cyffuriau yn rhan o gyfres o warantau ledled Abertyleri.
Aeth swyddogion cymdogaeth, gyda chefnogaeth gan swyddogion arfau tanio arbenigol, i nifer o leoliadaau dydd Mawrth 22 Awst yn rhan o ymchwiliad parhaus i gyflenwad cyffuriau dosbarth A yn ardal Blaenau Gwent.
Wrth chwilio eiddo daeth swyddogion o hyd i swmp o arian ac atafaelwyd gwahanol eitemau o dan y Ddeddf Enillion Troseddol.
Arestiodd swyddogion bedwar dyn, 28, 30, 39 a 41 oed a menyw, 24 oed, a dau o bobl ifanc 16 oed o Drinant, ar amheuaeth gynllwynio i gyflenwi cyffur a reolir dosbarth A.
Cafodd pump ohonyn nhw – tri dyn a dau berson ifanc – eu cyhuddo o’r drosedd hon yn ddiweddarach a’u remandio i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd.
Cafodd menyw, 24 oed, a dyn, 28 oed, y ddau ohonynt o Lanhiledd, eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau’n parhau.
Meddai Rhingyll Heddlu Martyn Pugh, o dîm plismona cymdogaeth Blaenau Gwent:
“Mae’r gwarantau a weithredwyd gan y tîm gorfodi yn y gymuned yn un o nifer o ddulliau rydyn ni’n eu defnyddio i fynd i’r afael â llinellau cyffuriau ac ymddygiad troseddol cysylltiedig, ac maen nhw’n dangos na fyddwn yn goddef pobl sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr arestiadau hyn yn rhoi sicrwydd i drigolion Blaenau Gwent ein bod wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau rhag cyffuriau ac amddiffyn pobl sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio a gwneud Gwent yn rhywle digroeso i bobl sy’n ceisio achosi niwed.
“Mae gan y cyhoedd ran bwysig i’w chwarae yn darparu gwybodaeth a allai ein helpu ni i ddatgymalu llinellau cyffuriau a diogelu unigolion agored i niwed.
“Gofynnaf yn daer ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau yn y gymuned i gysylltu â ni, er mwyn i ni allu cymryd camau gweithredu.
“Os ydych chi’n pryderu bod rhywun rydych yn ei adnabod yn cael ei ecsbloetio neu os oes gennych chi bryderon am ddelio cyffuriau, ffoniwch ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng.
“Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”