Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd adroddiad o wrthdrawiad traffig ffordd ar yr A4042, tua’r de rhwng cylchfannau McDonalds a New Inn tua 11.50am ddydd Llun 7 Awst.
Roedd pedwar car yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad: Peugeot, Ford, Mercedes du a Mercedes llwyd. Aethpwyd â’r fenyw 79 oed a oedd yn teithio yn y car Ford i’r ysbyty, lle y bu farw’n ddiweddarach.
Mae ei theulu yn parhau i gael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol ac maent wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol iddi:
“Bydd marwolaeth sydyn ein mam annwyl, Pauline, o dan amgylchiadau mor drychinebus, yn gadael bwlch na chaiff byth ei lenwi. Roedd hi’n wraig gariadus i Brian am bron i 59 mlynedd, yn fam i David, Helen ac Alison, ac yn fam-gu i Daniel, Bethan, Chloe, Dylan a Lucy.
“Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb am eu negeseuon o gefnogaeth, eu dymuniadau caredig a’u blodau hyfryd. Mae eu caredigrwydd wedi bod yn anhygoel.”
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad dal yn awyddus i siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar yr A4042 rhwng 11.45am a 12pm ddydd Llun 7 Awst neu unrhyw un sydd â ffilm camera car neu deledu cylch cyfyng.
Cysylltwch â ni drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 2300262994, neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol.