Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni wedi arestio dau ddyn arall yn dilyn adroddiadau am ladrad mewn eiddo yn Corporation Road tua 10.30pm ddydd Iau 17 Awst.
Aeth pedwar dyn i mewn i fflat uwchben eiddo masnachol ac yn ôl y sôn gwnaethant fygwth aelod o staff gydag arfau cyn dianc gyda ffonau.
Derbyniodd yr aelod o staff fân anafiadau.
Aeth swyddogion i’r lleoliad, gyda chymorth gan swyddogion arfau tanio arbenigol a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.
Arestiwyd dyn 27 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o fyrgleriaeth waethygedig a chafodd ei gyhuddo o’r drosedd yn ddiweddarach.
Arestiwyd dyn arall 27 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Arestiwyd dyn 34 oed o Gasnewydd a dyn 44 oed o Gaerdydd ar amheuaeth o droseddau arfau tanio.
Cawsant eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach wrth i’r ymchwiliad barhau.
Mae ymholiadau’n mynd rhagddynt a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan grybwyll rhif cyfeirnod 2300276630.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ni hefyd ar Facebook neu Twitter. Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw trwy ffonio 0800 555 111.