Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom adroddiad am wrthdrawiad traffig ar yr M48, ger Cas-gwent, tua 2.25am ddydd Llun 31 Gorffennaf.
Aeth swyddogion i gynorthwyo gyda rheoli traffig ac roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys unigolyn a char.
Nid oes modd adnabod yr unigolyn yn ffurfiol eto ond fe gadarnhawyd gan swyddogion bod dynes wedi marw yn y fan a'r lle.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae adroddiad wedi'i baratoi ar gyfer y crwner.
Mae ein hapêl am dystion yn parhau ac rydym yn gofyn i unrhyw fodurwyr, yn enwedig rhai â dashcam, a oedd yn teithio ar yr M48 neu'n defnyddio pont Newhouse rhwng 1am a 3.30am i gysylltu â ni.
Ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom trwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu cyfeirnod log 2300253683.