Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn y rhifyn yma o'n blog am droseddau meddiangar byddwn yn edrych ar y gwaith pwysig mae ein tîm Dangos y Drws i Drosedd (DyDiD) a'n tîm troseddau cefn gwlad wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn yn 2023.
Hyd yn hyn eleni, mae'r tîm DyDiD wedi bod yn gweithio'n galed yn rhannu cyngor ac offer atal trosedd gyda chymunedau a busnesau lleol, i helpu i'w cadw nhw'n ddiogel.
Dyma beth lwyddodd y tîm i'w wneud yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn:
Meddai Arolygydd Carl Morgan:
"Mae'r tîm yn deall yr effaith mae trosedd meddiangar yn gallu ei chael ar unigolion, cymunedau a busnesau, ac maen nhw'n gweithio'n galed i leihau'r risg o'r troseddau hyn.
“Hyd yn hyn eleni, mae'r tîm wedi cael canlyniadau gwych ac wedi adennill gwerth miloedd o bunnau o eiddo wedi’i ddwyn, gyda chymorth technoleg marcio fforensig.
“Os hoffech chi gyngor atal trosedd gan y tîm, neu becynnau atal trosedd sy'n cynnwys SmartWater, er mwyn cadw eich eiddo neu eich busnes yn ddiogel, dilynwch y tîm ar Twitter i weld pryd maen nhw'n cynnal ac yn mynd i ddigwyddiadau.”
Mae'r tîm wedi ymroi i helpu unigolion a busnesau i amddiffyn eu heiddo. Edrychwch sut maen nhw'n cyflawni'r canlyniadau hyn...
Ym mis Mai, croesawodd y tîm gydweithwyr o Heddlu Gorllewin Mersia i drafod arfer gorau wrth fynd i'r afael â throseddau meddiangar. Gwnaethant drafod y ffordd rydyn ni'n cefnogi ein cymunedau a chlywsant beth mae Gorllewin Mersia wedi bod yn ei wneud i gefnogi eu rhai nhw.
Mae gwaith tîm a gwaith partner yn rhan hollbwysig o rôl y tîm DyDiD.
Yn rhan o'n prosiect Strydoedd Saffach, rhoddwyd offer atal trosedd i 40 o fusnesau yn ystâd ddiwydiannol Felnex a oedd yn cynnwys arwyddion ac offer marcio fforensig.
Ymgyrch i helpu i fynd i'r afael â throseddau byrgleriaeth ledled Gwent yw Strydoedd Saffach.
Helpodd y tîm swyddogion Torfaen a Blaenau Gwent mewn digwyddiad Ymgyrch Harley ym mis Mai.
Ymgyrch Harley yw ein ffordd ni o fynd i'r afael â phobl sy'n defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol.
Ymunodd y tîm â swyddogion ar batrolau i ddefnyddio SmartTag am y tro cyntaf. Chwistrell marcio fforensig yw SmartTag sy'n galluogi swyddogion i chwistrellu troseddwyr o hyd at 10 metr i ffwrdd, gan adael dolen fforensig rhwng y chwistrell a'r troseddwr.
Mae'r tîm hefyd yn sicrhau eu bod yn rhoi o'u hamser i gwrdd ag aelodau iau ein cymunedau hefyd.
Galwodd Cwnstabl Heddlu Moore heibio i Ysgol Coed-y-Brain i sgwrsio gyda'n Heddlu Bach am rôl swyddogion heddlu a sut i gadw'n ddiogel. Cafodd y plant gyfle i eistedd mewn car heddlu hefyd, ac roedden nhw wrth eu boddau!
Troseddau Cefn Gwlad
Fel arfer, mae'r tîm troseddau cefn gwlad wedi bod yn gweithio'n galed i helpu i fynd i'r afael â throsedd meddiangar yn ardaloedd mwy gwledig Gwent.
Yn ogystal â'u hymrwymiadau arferol fel patrolau Ymgyrch Nightwatch a chymorthfeydd yn y gymuned, ym mis Mai aeth y tîm troseddau cefn gwlad i gyfarfod rhanbarthol am ddronau a drefnwyd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Cynhaliwyd y cyfarfod i drafod sut mae dronau'n gallu helpu swyddogion i ganfod a mynd i'r afael â throseddau cefn gwlad fel troseddau bywyd gwyllt a throseddau treftadaeth.
Ym mis Mai yn unig, bu'n rhaid i'r tîm troseddau cefn gwlad ymdrin â'r canlynol:
Ond nid dyna'r cyfan mae'r tîm wedi bod yn ei wneud:
I gael gwybodaeth a chyngor ar droseddau cefn gwlad, a sut i'w hatal nhw, cliciwch yma.
I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar ddod a'r gwaith mae'r timau'n ei wneud, dilynwch nhw ar Twitter:
Os hoffech chi ddysgu mwy am sut gall y tîm eich helpu chi, anfonwch e-bost at [email protected] neu [email protected].
Os ydych chi'n gweld trosedd yn cael ei chyflawni, ffoniwch 101, defnyddiwch ein system riportio ar-lein, neu anfonwch neges atom ni ar Facebook a Twitter. Gallwch riportio wrth Crimestoppers yn gwbl anhysbys hefyd, ar eu gwefan neu drwy ffonio 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.