Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion ledled Gwent yn cymryd rhan mewn ymgyrch diogelwch ffyrdd genedlaethol sy'n targedu'r rhai sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau.
Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o beryglon gyrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, gan dargedu'r rhai sy'n dewis peryglu bywydau defnyddwyr eraill y ffordd drwy gyflawni'r drosedd hon.
Drwy gydol yr ymgyrch bythefnos o hyd, bydd swyddogion yn cynnal mwy o batrolau ar ein ffyrdd ac yn stopio’r rhai y maen nhw’n credu sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Rhwng Awst 2022 a Gorffennaf 2023, aeth ein swyddogion i 21 o wrthdrawiadau traffig ffordd angheuol yng Ngwent a gwnaethant stopio mwy na 2,000 o fodurwyr ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau – cafodd mwy na 500 o'r bobl hyn brawf positif am alcohol a/neu gyffuriau wrth ochr y ffordd.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol, Shane Underwood:
“Rydyn ni’n parhau i gymryd safiad cryf yn erbyn y rhai sy'n dewis peryglu bywydau pobl eraill drwy yrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau.
“Mae ein swyddogion plismona'r ffyrdd yn gweithio gyda phartneriaid gwasanaethau brys drwy gydol y flwyddyn i ailadrodd un neges syml: peidiwch â pheryglu eich bywyd chi eich hun a bywydau pobl eraill trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
“Mae'n un o'r achosion mwyaf o farwolaeth ar ein ffyrdd ac mae'r ymgyrchoedd hyn yn bwysig wrth wneud ein ffyrdd yn fwy diogel a chodi ymwybyddiaeth o ganlyniadau gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
“Does neb eisiau achosi gwrthdrawiad mawr, heb sôn am fod y rheswm pam mae teulu yn cael gwybod eu bod wedi colli rhywun annwyl.
“Os dydych chi ddim yn ffit i yrru, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud trefniadau teithio gwahanol, er enghraifft, ffoniwch dacsi – a gwnewch yn siŵr bod eich teulu a'ch ffrindiau yn gwneud hynny hefyd.”
Cadwch lygad am gyngor, arweiniad a diweddariadau gan ein swyddogion ar ein cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr ymgyrch hon.
Gwybod y terfynau
Mae gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn beryglus iawn a gall gael effaith ddifrifol ar eich amseroedd ymateb a’r penderfyniadau y byddwch chi’n eu gwneud.
Y terfyn alcohol cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer gyrru yw 80 miligram o alcohol am bob 100 mililitr o waed (neu 35 microgram o alcohol i bob 100 mililitr o anadl), ac mae hi hefyd yn drosedd gyrru gydag unrhyw un o 17 o gyffuriau a reolir uwchlaw lefel benodol yn eich gwaed. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau sydd wedi’u rhagnodi’n gyfreithiol.
Y risg fwyaf y byddwch chi'n ei chymryd wrth yrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau yw'r risg o achosi gwrthdrawiad; gall effeithio ar eich gyrru mewn sawl ffordd, fel:
Mae'r heddlu'n gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau bob dydd o'r flwyddyn.
Os ydych chi'n poeni am rywun sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, gallwch chi roi gwybod i ni drwy ffonio 101, anfon neges atom ar Facebook neu Twitter, neu ddefnyddio ein system riportio ar-lein.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Am wybodaeth a chyngor ar yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, cliciwch yma.