Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r bobl yma wedi torri amodau eu trwyddedau ac maen nhw’n cael eu galw yn ôl i’r carchar.
Mae ein swyddogion wedi gweithio’n galed, yn cynnal chwiliadau a dilyn ymholiadau ledled Gwent i geisio dod o hyd iddyn nhw a’u dwyn nhw i’r ddalfa.
Rydyn ni’n gofyn i chi helpu yn awr. Os ydych chi wedi gweld unrhyw rai ohonyn nhw, neu os ydych chi’n gwybod ble maen nhw, cysylltwch â ni.
Dyma pwy ydyn nhw:
Gyda’ch cymorth chi, rydyn ni’n gobeithio gallu eu dwyn nhw i’r ddalfa.
Efallai bod rhai ohonyn nhw’n dibynnu ar deulu neu ffrindiau er mwyn osgoi arést.
Hoffem atgoffa pawb bod rhoi lloches i rywun sydd wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar yn drosedd a allai arwain at gyfnod yn y carchar.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch lle maen nhw gysylltu â ni ar unwaith trwy ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter gan grybwyll enw’r person ac unrhyw wybodaeth.
Gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw hefyd ar 0800 555 111.