Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn o Bontllanfraith fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A469 ddydd Gwener 15 Rhagfyr wedi rhoi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel 'diemwnt pur'.
Mae teulu dyn o Bontllanfraith, fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A469 ger Llanbradach, wedi ei ddisgrifio fel un â'r 'enaid mwyaf gwerthfawr'.
Daeth swyddogion, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, i wrthdrawiad traffig ffordd ar yr A469 ger Llanbradach tua 6.20pm ddydd Gwener 15 Rhagfyr.
Un car oedd yn y gwrthdrawiad, Mazda gwyn, a datganwyd bod teithiwr, dyn 20 oed, wedi marw yn y fan a'r lle, gan barafeddygon.
Bellach gellir cyhoedd mai ei enw yw Chaz Ralph; mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac maent yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae ei deulu wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol iddo:
“Chaz Ralph, ein bachgen prydferth gorau.
“Rydyn ni'n dy garu di gymaint mwy nag yr oedden ni erioed wedi meddwl y byddai'n bosib. Ti oedd y mab a'r brawd gorau ac yn ffrind i bawb.
“Diemwnt pur a phawb yn ei garu. Roeddet ti’n rhy dda i'r byd yma, a ti oedd ein bachgen ni.
“Byddwn yn colli dy wyneb, y wên heintus honno, gan mai ti oedd bywyd ac enaid y parti.
“Fe wnes ti roi dy gariad i bawb a helpu unrhyw un y gallet ti, gan roi pobl eraill o flaen dy hun bob amser a dyna oedd yn dy wneud yn fab a brawd perffaith.
“Roedd gennyt ti'r enaid mwyaf gwerthfawr ac rydyn ni'n gwybod y byddi di gyda ni bob amser.
“Roeddet ti bob amser yn ein gwneud ni i gyd mor falch ohonot bob dydd.
“Rwyt ti yn ein calonnau ac wrth ein hochr bob amser, byddwn yn dy golli am byth, fydd ein dagrau byth yn stopio cwympo, byddwn yn cwrdd eto.
“Rwyt ti'n rhy dda i'r byd hwn, ein bachgen anhygoel perffaith, bob amser ac am byth."
Mae gyrrwr y car, sy'n 18 oed o Bontllanfraith, wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus a gyrru tra’r oedd dan ddylanwad cyffuriau.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol yn ddiweddarach wrth i'r ymholiadau barhau.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn dymuno siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar yr A469 rhwng 6pm a 6.30pm ddydd Gwener 15 Rhagfyr.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng, gysylltu â ni drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod log 2300426121.
Fel arall, gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.