Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Helo bawb,
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur yn Nwyrain Casnewydd, a gobeithio y bydd y blog cymdogaeth yma'n rhoi cipolwg ar rywfaint o'r gwaith mae ein swyddogion a phartneriaid wedi ei gyflawni i fynd i'r afael â'r problemau mwyaf pwysig i chi.
Dyma rai o'n gweithgareddau a chanlyniadau diweddar.
Ymgyrchoedd amlasiantaeth
Gwnaethom gynnal ymgyrch ffyrdd amlasiantaeth yng nghanol mis Tachwedd i sicrhau bod pobl sy'n defnyddio ein ffyrdd yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel a chyfreithlon.
Pwrpas yr ymgyrch oedd canfod defnyddwyr ffyrdd oedd yn rhoi pobl eraill mewn perygl - naill ai drwy yrru'n anghyfreithlon neu drwy yrru cerbydau nad oedden nhw o safon dderbyniol - a chafodd ei gynnal yn wardiau Langstone a Llan-wern, gan ganolbwyntio ar gludwyr gwastraff, tipio anghyfreithlon a masnachwyr ffug.
Yn ystod yr ymgyrch, cyflwynwyd tri adroddiad trosedd traffig (TOR), atafaelwyd un cerbyd, cyflwynwyd pump hysbysiad Adran 34 gan iechyd yr amgylchedd ac un atgyfeiriad safonau masnach i fasnachwr ffug posibl gyda gwiriad lles i'r cleient.
Dim ond un o'r ffyrdd rydyn ni'n rhoi sylw i broblemau diogelwch ar y ffyrdd yw ymgyrchoedd plismona rhagweithiol fel yr un yma. Rwy'n gobeithio bod y canlyniadau, a welir isod, yn anfon neges glir bod y rheini nad ydyn nhw'n cadw eu cerbyd mewn cyflwr derbyniol neu sy'n gyrru'n anghyfrifol nid yn unig yn rhoi eu hunain mewn perygl ond pobl eraill hefyd, sy'n gwbl annerbyniol, a byddwn yn ymdrin yn gadarn â nhw.
E-feiciau
Rydyn ni'n deall bod e-feiciau'n achos pryder cynyddol i'n cymunedau, ac rydyn ni'n derbyn cannoedd o adroddiadau am y defnydd o'r cerbydau anghyfreithlon yma a gyrru gwrthgymdeithasol. Rydyn ni'n rhoi pwys mawr ar yr adroddiadau yma a dydd Llun 15 Tachwedd, arestiwyd dyn 25 oed dros nos am yrru peryglus ar ôl iddo gael ei weld yn gyrru beic oddi ar y ffordd mewn ffordd beryglus ar Ffordd Ddosbarthu'r De ger Ringland. Gyda chymorth Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, cafodd ei ddilyn i gyfeiriad, ei arestio, ac atafaelwyd y beic. Cafodd ei riportio am droseddau traffig yn ddiweddarach.
Efallai eich bod wedi gweld ein hymgyrch gorfodi diweddaraf mewn cysylltiad â defnyddio beiciau anghyfreithlon ar ITV Wales. Gwnaethant ymuno â ni ar Ymgyrch Harley lle'r oedd swyddogion o'r tîm cymdogaeth, gyda chymorth ein tîm plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol (RPSO) ac eraill, yn mynd i'r afael â phroblemau e-feiciau oddi ar y ffordd. Yn ystod yr ymgyrch, arestiwyd dyn 20 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o fod â chyffuriau rheoledig yn ei feddiant gyda bwriad o gyflenwi, ac atafaelwyd y beic. Mae wedi cael ei gyhuddo o'r drosedd yma ers hynny.
Dwyn a dwyn o siopau
Rydym wedi cael fflyd o achosion o ddwyn beiciau a sgwteri yn yr ardal a dydd Iau 23 Tachwedd arestiodd swyddogion fachgen 15 oed o Alway mewn cysylltiad â'r lladradau. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ers hynny tra mae swyddogion yn cynnal ymholiadau. Gall unrhyw un â gwybodaeth ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol gan grybwyll rhif cofnod 2300398999.
Gwnaethom arestio dyn 53 oed o Lyswyry hefyd sy'n dwyn o siopau'n gyson ac a oedd yn targedu Tesco Extra ac Aldi. Cafodd ei gyhuddo a'i remandio yn y ddalfa. Ers hynny mae wedi pledio'n euog ac wedi derbyn gorchymyn cymunedol a gorchymyn i dalu iawndal.
Nid yw dwyn, ac yn arbennig dwyn o siopau, yn drosedd heb ddioddefwyr ac mae'n gallu cael effaith go iawn ar ein cymunedau, yn enwedig ar fusnesau a phobl sy'n byw yma.
Rydyn ni'n cymryd camau cadarnhaol i leihau troseddau meddiangar, o dargedu troseddwyr mynych i ymgyrchoedd fel Dangos y Drws i Drosedd, sydd hefyd yn gweithio'n agos gyda busnesau lleol.
Gwarantau cyffuriau
Rydyn ni wedi gweithredu tair gwarant yn ystod y ddau fis diwethaf, y cyntaf yn Corporation Road lle gwnaethom atafaelu cyffuriau dosbarth A ac arestio dyn 38 oed ar amheuaeth o nifer o droseddau'n ymwneud â chyffuriau a gwyngalchu arian. Roedd yr ail warant yn nhafarn The Albert. Gwnaed nifer o arestiadau a chafodd un dyn 22 oed ei gyhuddo a'i remandio yn y ddalfa. Gweithredwyd gwarant arall yn Oakley Street lle'r atafaelwyd nifer o blanhigion canabis ac arestiwyd un dyn.
Yn ogystal â gweithredu gwarantau, arestiodd swyddogion ddyn 31 oed mewn cysylltiad â throseddau cyflenwi cyffuriau yn Old Barn Estate. Roedd y dyn yn reidio e-feic anghyfreithlon a chanfuwyd cyffuriau dosbarth A arno. Ers hynny mae wedi cael ei gyhuddo ac mae ei e-feic wedi cael ei atafaelu. Cafodd dyn arall 20 oed ei arestio, ei gyhuddo a'i remandio am gyflenwi cyffuriau yn ardal Beechwood, ac mae ymholiadau'n parhau i geisio dod o hyd i aelodau eraill y grŵp yma.
Rydyn ni wedi ymroi i fynd i'r afael â chyffuriau anghyfreithlon yn ein cymuned ond mae angen eich help chi arnom ni - os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â delio cyffuriau yn eich ardal chi, ffoniwch ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Rydyn ni wedi bod yn cynnal ein cyfarfodydd arferol gyda phartneriaid i geisio datrys rhai problemau tymor hirach ac rydyn ni'n canolbwyntio ar y cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn ym Mharc Manwerthu Sbyty yn awr. Mae wyth llythyr ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu hanfon at rieni ac mae dau Rybudd Gwarchod y Gymuned wedi cael eu cyhoeddi.
Rydyn ni wedi cwrdd â Cartrefi Dinas Casnewydd hefyd i roi sylw i bryderon yn ymwneud â Pharc Broadmead ac rydym wedi gweld gwelliannau yn yr ardal yma yn dilyn trafodaethau. Rydyn ni'n gweithio ar y problemau yn Marshfield Street ac rydyn ni wedi cyhoeddi Rhybudd Gwarchod y Gymuned a saith llythyr i rieni mewn cysylltiad ag ymddygiad gwrthgymdeithasol eu plant, ac mae pedwar llythyr wedi cael eu hanfon at rieni yn dilyn pryderon yn Milton Court.
Rydyn ni'n ymchwilio i'r difrod i gerbydau yn Ringland ac mae ymholiadau'n datblygu. Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar gyfryngau cymdeithasol gan grybwyll rhif cofnod 2300385736.
I gloi, hoffwn ddiolch i'n swyddogion, partneriaid a'r gymuned am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a dymuno Nadolig bendigedig a thawel i chi.
Inspector Roland Giles.