Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae arweinydd plismona cymdogaeth Heddlu Gwent, Prif Uwch-arolygydd Matthew Williams, wedi diolch i swyddogion cymdogaeth Gwent a chymunedau yn dilyn wythnos o weithredu lle gwasgodd y Llu yn dynn ar drosedd mewn nifer o ymgyrchoedd penodol.
Rhwng 23 a 29 Ionawr, ymunodd Heddlu Gwent â lluoedd ledled y wlad i nodi ymgyrch gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu sy'n tynnu sylw at waith timau plismona cymdogaeth.
Trwy gydol yr wythnos, cynhaliodd swyddogion ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu er mwyn atal trosedd a gweithredwyd gwarantau i dargedu troseddau cymdogaeth.
Meddai Prif Uwch-arolygydd Matthew Williams:
“O wythnos i wythnos, mae ein timau plismona cymdogaeth yn gweithio'n ddiflino i amddiffyn trigolion, targedu troseddwyr a chynllunio gwaith atal i fynd i'r afael â'r troseddau sy'n difetha ein cymunedau.
“Trwy gydol yr wythnos hon o weithredu, mae swyddogion wedi cynnig cipolwg o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda phartneriaid trwy'r flwyddyn i wneud y cyhoedd yn fwy diogel. Nod plismona cymdogaeth yw datrys problemau a rhoi cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â thueddiadau trosedd; cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd wedi'u targedi i wasgu'n dynn ar drosedd ac anhrefn; a chreu cysylltiadau cadarn gyda chymunedau trwy waith ymgysylltu.
"Mae cyrchoedd yn Rhymni a Blaenau Gwent wedi mynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau, ac mae gwarantau wedi cael eu gweithredu yng Nghaerffili ar ôl i'r gymuned leisio pryder bod cŵn peryglus yn cael eu bridio mewn cyfeiriad yno; yn Llan-bedr Gwynllŵg, cynhaliodd swyddogion wiriadau diogelwch ar y ffyrdd gan gyhoeddi Adroddiadau Trosedd Traffig i fodurwyr nad oeddent yn gwisgo gwregys, ac atafaelu cerbyd a oedd yn cael ei yrru heb yswiriant.
"Hoffwn ddiolch i'n cymunedau yng Ngwent am eu cefnogaeth barhaus. Er bod ein swyddogion yn gweithio bob awr i amddiffyn trigolion, mae gwybodaeth gan y cyhoedd mewn digwyddiadau ymgysylltu fel cymorthfeydd yr heddlu yn hollbwysig, a gallwn weithredu yn sgil yr wybodaeth honno wrth baratoi i weithredu'r gwarantau hyn.”
Mae swyddogion Gwent wedi bod yn rhannu eu gwaith ar gyfryngau cymdeithasol trwy gydol yr wythnos. Dyma rai o'r ymgyrchoedd maen nhw wedi eu cyflawni:
Cynhaliodd swyddogion wiriadau diogelwch ar y ffyrdd yn Llan-bedr Gwynllŵg. Stopiodd y tîm chwech o gerbydau a chyhoeddi dau Adroddiad Trosedd Traffig i fodurwyr nad oeddent yn gwisgo gwregys a gwnaethant atafaelu cerbyd a oedd yn cael ei yrru heb yswiriant.
Swyddogion Blaenau Gwent yn datgymalu lleoliad tyfu canabis
Ddydd Mawrth 24 Ionawr, datgymalodd swyddogion Blaenau Gwent leoliad tyfu canabis yn Abertyleri. Mae'r planhigion wedi cael eu hatafaelu ac mae dyn wedi cael ei arestio.
Gweithredu gwarant dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau
Gweithredodd swyddogion Bedwas warant dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau ddydd Mercher 25 Ionawr ac atafaelu ffonau symudol, cyffuriau ac arian yn y lleoliad.
Heddlu Bach yn mynd i'r afael â diogelwch parcio
Ymunodd yr Heddlu Bach gyda swyddogion Casnewydd a Chyngor Dinas Casnewydd i hybu pwysigrwydd parcio'n ddiogel, yn arbennig o amgylch ysgolion.
Atafaelu ci yng Nghaerffili
Aethom i gyfeiriad yng Nghwrt yr Hendre, Hendredenni, Caerffili ddydd Mawrth 24 Ionawr yn dilyn pryderon bod brid o gi a oedd wedi ei wahardd, y credir ei fod yn ddaeargi pydew (pitbull), yn cael ei gadw yn yr eiddo.Gweithredodd swyddogion warant dan y Ddeddf Cŵn Peryglus ac atafaelwyd y ci ac wyth o gŵn bach er mwyn iddynt gael eu harchwilio gan swyddog deddfwriaeth cŵn.
Diwrnod o weithredu cymunedol
Targedodd swyddogion gyflenwyr cyffuriau yng Nghwm Rhymni gyda thair gwarant ddydd Gwener 27 Ionawr yn Nhredegar, Rhymni a Fochriw. Atafaelwyd cyffuriau dosbarth B a ffonau symudol yng ngwarant Rhymni a chafodd tri beic modur y credir eu bod wedi cael eu dwyn eu canfod yn Fochriw.
Mae ein cymunedau’n chwarae rhan hollbwysig yn llywio ein gwaith cynllunio a'n hymateb i broblemau lleol.
Trwy rannu gwybodaeth gyda ni, boed hynny wrth riportio troseddau difrys ar ein gwefan, dros gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101, neu wrth ymweld ag un o'n cymorthfeydd heddlu neu wrth aros i siarad â ni ar y stryd, rydych chi'n ein helpu ni i lunio ein hymateb a dwyn y rhai sy'n difetha ein cymunedau o flaen eu gwell.