Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd gorchymyn gwasgaru ar gyfer rhannau o ganol tref Cwmbrân yn dod i rym am 1pm yfory (dydd Sadwrn 25 Chwefror) yn dilyn nifer o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y gorchymyn mewn grym tan 10pm dydd Sul 26 Chwefror.
Mae'r ardaloedd sy'n rhan o'r gorchymyn yn cynnwys Leisure @ Cwmbran a siopau ar gyrion canol y dref, fel Aldi, Morrisons, Lidl, a Sainsbury’s.
Meddai Cwnstabl Heddlu Jason Ghalamkary:
"Yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan drigolion a busnesau yn yr ardal, rydym wedi cyhoeddi'r gorchymyn gwasgaru hwn yng nghanol tref Cwmbrân.
"Mae ein swyddogion wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau a byddant yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n benderfynol o achosi niwed neu anhrefn.
“Os oes gennych chi bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch ei riportio drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol.”
Mae gorchmynion gwasgaru'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os ydynt yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n afreolus, os ydynt yn aflonyddu, dychryn neu'n peri gofid i aelodau'r cyhoedd, neu os yw eu hymddygiad yn debygol o arwain at hynny.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.