Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gorchymyn gwasgaru ar waith yn awr a bydd mewn grym tan 4pm yfory, dydd Iau 9 Chwefror.
Mae'r gorchymyn yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir ar y map, gan gynnwys Stryd Fawr Rhymni, y parc sglefrio a'r ffyrdd o gwmpas Family Shopper.
Source: Google Maps
Mae'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os yw eu hymddygiad yn debygol o gyfrannu at anhrefn neu'n debygol o aflonyddu ar aelodau'r cyhoedd, eu dychryn neu beri gofid iddynt.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.
Rhoddwyd y gorchymyn mewn grym ar ôl adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Meddai Arolygydd Lysha Thompson:
"Rydym wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, sy'n hollol annerbyniol.
"Bydd ein timau plismona cymdogaeth ar batrôl yn yr ardal a byddant yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n ymddwyn yn afreolus neu yn wrthgymdeithasol.
"Rydym yn gofyn i rieni sicrhau eu bod yn gwybod lle mae eu plant trwy'r amser, yn arbennig tra bydd y gorchymyn gwasgaru mewn grym. Gofynnaf hefyd i aelodau'r cyhoedd riportio unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol wrthym ni drwy ffonio 101."