Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Helo bawb,
Dyma fy mlog cyntaf yn 2023 ac roeddwn eisiau cymryd eiliad i fyfyrio ar fy mlwyddyn gyntaf fel eich arolygydd cymdogaeth.
Roedd yn bleser llwyr arwain tîm gwych o swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol (CSO) brwdfrydig drwy gydol 2022, ac rwy'n edrych ymlaen at ategu’r deuddeg mis diwethaf yn y flwyddyn i ddod.
Yr hyn mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi’i atgyfnerthu i mi yw bod pobl yn hollbwysig i blismona cymdogaeth - ein heddlu, ein partneriaid a'n cymunedau.
Gweithiodd y tîm yn hynod o galed i greu partneriaethau effeithiol, ymgysylltu â'r gymuned a magu ffydd ein cymdogaethau. Mae hyn efallai wedi bod yn amlwg yn fwyaf diweddar yn eu gwaith yn ystod wythnos plismona cymdogaeth, lle rhoddodd nifer o warantau a digwyddiadau ymgysylltu gipolwg ar y gwaith y maen nhw yn ei wneud bob dydd i amddiffyn a thawelu meddyliau cymunedau ledled Caerffili.
Yn y blog hwn, byddaf yn rhannu rhai manylion digwyddiadau diweddar, yn cyflwyno rhai newydd-ddyfodiaid yn ein tîm plismona ac yn amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Croesawu pobl newydd i'n tîm plismona - a ffarwelio
Mae PC 1859 Nathan Womersley wedi ymuno â'r tîm cymdogaeth ar ôl treulio sawl blwyddyn fel swyddog ymateb yn ardal Caerffili. Mae'n ychwanegiad gwych a gan fod ganddo brofiad a gwybodaeth leol mae wedi gallu bwrw iddi ar unwaith.
Rydym hefyd wedi croesawu pedwar CSO newydd, sy'n cael eu mentora ar hyn o bryd ac yn cwrdd ag aelodau o'u cymuned. Dyma nhw: CSO 469 Ryan Taylor – Sant Martin; CSO 463 Rhys Wall – Cwm Aber; CSO 480 Saskia Wall – Graig-y-Rhaca; a CSO 273 Angharad Morgan.
Hoffwn longyfarch CSO Elliot Williams am ei waith yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Penyrheol. O ganlyniad i hyn cafodd ei enwebu am wobr genedlaethol i ddathlu 20 mlynedd ers creu'r rôl CSO.
Mae swyddogion cymorth cymunedol yn magu perthynas hanfodol gyda'n cymunedau a'n partneriaid i fynd i'r afael â materion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n gallu cael effaith wirioneddol ar ddioddefwyr. Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio swyddogion cymorth cymunedol ac mae mwy o wybodaeth am swyddi gwag ar gael ar ein gwefan.
Ac yn olaf, bydd Sarjant 276 Jon Pursey yn ymddeol eleni ar ôl gwasanaethu cymunedau Gwent am 30 mlynedd. Mae'n swyddog eithriadol a bydd pawb ohonom yn gweld ei eisiau.
Ymosodiadau ar swyddogion | Gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni
Mae ymosodiadau ar swyddogion heddlu a gweithwyr brys eraill yn gwbl annerbyniol.
Mae gweithwyr brys ledled Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i'n cymunedau, yn aml gan eu rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd heriol a pheryglus i'n diogelu ni, ein ffrindiau a'n teuluoedd.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y digwyddiadau hyn, gan dynnu sylw at ddewrder ein swyddogion. Er enghraifft, ym mis Tachwedd fe wnaeth dau o fy staff ddioddef anafiadau tra’r oeddynt yn cyflawni eu dyletswyddau.
Mewn ymgyrch genedlaethol a lansiwyd ym mis Rhagfyr, daeth y gwasanaethau brys at ei gilydd i apelio ar y cyhoedd i 'weithio gyda ni, nid yn ein herbyn.' Gallwch ddarllen mwy ar ein gwefan: Apêl wrth i ymosodiadau ar weithwyr brys barhau i gynyddu | Heddlu Gwent
Gweithgarwch Gorfodi | swyddogion yn cynnal chwe gwarant yn ystod yr wythnosau diwethaf
Yn ddiweddar rydym wedi bod â dwy wythnos ar wahân o orfodi a welodd chwe gwarant yn cael eu cynnal ledled Bedwas a Chaerffili.
Efallai eich bod wedi gweld rhai o'r canlyniadau positif a rannwyd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ond cafodd pedwar o'r rhain eu cynnal o dan y ddeddf camddefnyddio cyffuriau a dau o dan y ddeddf cŵn peryglus.
Yn ystod yr ymgyrchoedd cawsom ein cefnogi gan swyddogion o wahanol adrannau yn ogystal â phartneriaid gan gynnwys Safonau Masnach.
Roedd rhan o'r gweithgarwch gorfodi hwn yn cyd-fynd ag Wythnos Plismona Cymdogaeth, wythnos genedlaethol o weithredu i ddathlu plismona'r gymdogaeth. Darllenwch fwy am yr ymgyrch yma: Prif uwch-arolygydd yn diolch i swyddogion cymdogaeth ar ôl wythnos o weithredu | Heddlu Gwent
Edrych ymlaen at 2023
Rwy'n awyddus i'r gweithgarwch gorfodi amlwg hwn barhau a byddwn i’n annog unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn ag unrhyw weithgaredd troseddol i'w riportio yn uniongyrchol i ni neu'n ddienw drwy CrimeStoppers.
Rwy'n eich sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol, yn cael ei hadolygu, ei datblygu a chamau priodol yn cael eu cymryd. Mae rhagor o warantau yn cael eu cynllunio a bydd canlyniadau'r rhain yn cael eu rhyddhau maes o law.
Bydd pencampwriaeth rygbi'r Chwe Gwlad yn fuan, ac yna Cwpan y Byd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Yn hanesyddol, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw yn ystod digwyddiadau chwaraeon, felly gofynnaf i chi fwynhau'r achlysur yn gyfrifol a chadw'n ddiogel. Bydd fy swyddogion ar batrôl ar yr adegau hyn i roi sicrwydd a thawelu meddyliau.
Bydd troseddau cymdogaeth (fel byrgleriaethau a lladrata o ac o gerbydau) yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni eleni.
Yn gyffredin, mae'r troseddau hyn yn cael eu cyflawni gan bobl sy’n bachu cyfle , a gallwn gymryd camau syml i rwystro ac atal y troseddau hyn. Gofynnaf i chi sicrhau bod eich eiddo a'ch cerbydau'n cael eu cadw'n ddiogel, ystyriwch fuddsoddi mewn systemau diogelwch fel goleuadau, teledu cylch cyfyng neu gamera ar gloch y drws.
Yn ddiweddar rwyf wedi gweld lluniau CCTV o unigolyn yn ceisio agor drysau tai yn ardal Caerffili. Yn ffodus, ar y ddau achlysur roedd yr ymdrechion yn aflwyddiannus oherwydd bod y tai wedi’u cloi.
Ers hynny mae'r unigolyn hwn wedi ei adnabod a'i arestio ond mae'n ein hatgoffa ni i gyd i fod ar ein gwyliadwriaeth a diogelu ein heiddo.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch yn y cartref, darllenwch am ein gwaith Strydoedd Saffach ledled Gwent neu ewch i:
Arolygydd Rhys Caddick