Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 34 oed o Markham wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau byrgleriaeth ar ôl i dditectifs Heddlu Gwent weithio’n gyflym yn dilyn adroddiadau am achosion o dorri mewn i adeiladau yn ardal Coed-duon yn gynharach yr wythnos yma.
Yn ystod oriau mân bore Llun 30 Ionawr, derbyniodd Heddlu Gwent adroddiadau am fyrgleriaeth mewn adeiladau masnachol ym Maesycwmer ar ôl i ddyn fynd i mewn i’r eiddo yn ôl pob sôn, difrodi tiliau a gadael ar feic modur ar ôl i rywun darfu arno. Dyweder ei fod yn cario bwyell wrth iddo ddianc.
Rhyw 40 munud yn ddiweddarach, cafodd swyddogion eu hysbysu am achos o dorri i mewn i adeilad masnachol ym Mharc Manwerthu Blackwood Gate.
Cyrhaeddodd swyddogion y lleoliad yn gyflym, a chwiliwyd yr ardal gan un o drinwyr cŵn Heddlu Gwent.
Yn fuan wedyn, arestiwyd dyn 34 oed o Markham ar amheuaeth o fyrgleriaeth.
Cafodd ei arestio’n hwyrach mewn cysylltiad ag ymchwiliadau i fyrgleriaethau eraill hefyd a chafodd ei gyhuddo o fyrgleriaeth (x4), ymgais i fyrglera, meddu ar eitem lafnog, ymddygiad bygythiol gydag eitem lafnog a gyrru tra’r oedd wedi ei wahardd (x4).
Ymddangosodd yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth 31 Ionawr a chafodd ei remandio yn y ddalfa.