Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arweiniodd gwarant cyffuriau a weithredwyd ym Mhilgwenlli’r wythnos ddiwethaf at dri arést.
Gweithredodd swyddogion warant mewn cyfeiriadau yn Albion Court a Francis Drive, Pilgwenlli ddydd Iau 16 Chwefror.
Arestiwyd tri dyn, 21, 30 a 24 oed, pob un ohonynt o ardal Casnewydd, ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth B – canabis.
Mae’r tri ohonynt wedi cael eu cyhuddo a’u remandio i’r ddalfa.
Atafaelwyd swmp o ganabis ac arian o’r eiddo.
Meddai Arolygydd Pilgwenlli, Hannah Welti:
“Gweithredwyd y warant yma yn dilyn pryderon yn y gymuned am ddefnyddio cyffuriau. Mae cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn cael effaith sylweddol ar ein cymunedau, a byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi yn erbyn pobl sy’n ymwneud â’r mathau hyn o droseddau.
“Mae cefnogaeth a chymorth y gymuned leol yn hollbwysig i’r gwaith yma a hoffwn annog pobl i roi gwybod i ni am unrhyw weithgarwch amheus neu anghyffredin yn eu hardal er mwyn i ni gymryd camau gweithredu.
“Os oes gennych chi wybodaeth am gyflenwi neu ddefnyddio cyffuriau yn eich cymuned, ffoniwch ni ar 101, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Fel arall, gallwch anfon neges uniongyrchol gyda gwybodaeth at dudalennau Facebook neu Twitter Heddlu Gwent.”