Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein tîm Dangos y Drws i Drosedd (DyDiD) yn helpu i atal trosedd a chadw cymunedau ledled Gwent yn ddiogel.
Trwy weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau a busnesau, mae'r tîm yn gallu dal ac euogfarnu troseddwyr sy'n cyflawni:
Yn ystod mis Ionawr cafwyd gostyngiad mewn troseddau meddiangar o gymharu â mis Rhagfyr - gan gynnwys dwyn, dwyn beiciau, a dwyn cerbydau. Cafwyd gostyngiad hefyd mewn achosion o fyrgleriaethau masnachol, byrgleriaethau preswyl, a throseddau cerbyd o gymharu â'r cyfartaledd misol dwy flynedd.
Mae tîm DyDiD wedi bod yn gweithio'n galed gyda thrigolion ledled Gwent trwy gydol mis Ionawr, ac maen nhw wedi:
Hyd yn hyn, mae'r tîm wedi adfer gwerth £176,345 o nwyddau diolch i farcio fforensig.
Meddai Arolygydd Carl Morgan:
“Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid a chymunedau, yn ogystal â chydweithwyr ledled yr heddlu, i fynd i'r afael â throseddau meddiangar difrifol a threfnedig.
“ Trwy ddefnyddio asedau cudd-wybodaeth, yn ogystal â marcio SmartWater, mae swyddogion yn gallu targedu'r troseddwyr mwyaf cyson a dychwelyd eiddo i berchnogion.
"Cafwyd canlyniadau gwych gan y tîm yn ystod mis Ionawr, ac rydyn ni'n disgwyl mwy o ganlyniadau gwych wrth symud ymlaen."
Edrychwch ar rywfaint o'r gwaith arall mae ein tîm wedi'i gyflawni...
Gweithiodd y tîm ochr yn ochr â'n timau cymdogaeth i gynnal nifer o ddigwyddiadau marcio beiciau trwy gydol mis Ionawr.
Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn mewn ardaloedd ledled Gwent er mwyn i bobl fynd â'u beiciau i gael eu marcio gyda hylif fforensig. Cafodd 85 o feiciau eu marcio yn defnyddio BikeRegisterUK.
Yn dilyn byrgleriaeth, aeth PC Anthony Moore, ein swyddog troseddau busnes, i storfa Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghoed-duon.
Rhoddodd arwyddion atal trosedd a thechnoleg SmartWater iddyn nhw i'w helpu nhw i gadw eu busnes yn ddiogel.
Aeth ein hyfforddwyr, Natalie a Karon, i westy Celtic Manor i hyfforddi partneriaid i adnabod arwyddion oedolion a phlant sy'n agored i niwed a cham-fanteisio. Aeth Huw, ein cyd-gysylltydd DyDiD, i Glwb Garddio Bargod i roi cyflwyniad ar yr adran DyDiD a chyngor atal trosedd wedi'i anelu'n bwrpasol at arddwyr a phobl sy'n defnyddio siediau a thai gwydr.
Yn ystod mis Ionawr, rhoddodd ein swyddogion troseddau busnes gymorth i'r ymgyrch Strydoedd Saffach, gan gofrestru 40 o fusnesau ar y cynllun.
Troseddau metel
Wrth i werth metel sgrap barhau i godi, mae swyddogion wedi gweld mwy o ladron yn targedu cerbydau gyda throswr catalytig.
Hwylusodd y tîm DYDID hyfforddiant datblygu ar gyfer 18 o swyddogion ym mis Ionawr ac maen nhw'n gobeithio gwneud mwy yn ystod y flwyddyn.
Ar ôl i'r hyfforddiant hwn gael ei gynnal:
Ein partneriaid, digwyddiadau, a'r gymuned
Mae ein tîm yn parhau i weithio gyda’r gymuned a’n partneriaid i ddiogelu’r cyhoedd a busnesau.
Maen nhw’n gweithio i nodi tueddiadau troseddu, sicrhau bod camau ataliol ar waith, cefnogi dioddefwyr trosedd ac adnabod y rhai sy’n eu cyflawni yn ein cymunedau.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill ac i wybod lle maen nhw yn y gymuned, dilynwch y tîm ar Twitter neu ewch i'w tudalen ar ein gwefan.
Os hoffech chi ddysgu mwy am sut gall y tîm eich helpu chi, anfonwch e-bost at [email protected].
Os gwelwch chi drosedd yn cael ei chyflawni, ffoniwch 101, defnyddiwch ein system riportio ar-lein, neu anfonwch neges atom ni ar Facebook a Twitter. Gallwch riportio wrth Crimestoppers yn gwbl anhysbys hefyd, ar eu gwefan neu drwy ffonio 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.