Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:43 14/01/2023
Aeth swyddogion i leoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A467, rhwng Crymlyn ac Aberbîg, tua 1.20pm ddydd Gwener 13 Ionawr, ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth neu luniau camera car i’w helpu nhw gyda’u hymholiadau.
Rydyn ni’n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A467 rhwng Crymlyn ac Aberbîg tua 1.20pm ddydd Gwener 13 Ionawr.
Aeth swyddogion i leoliad y gwrthdrawiad, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gar, Ford Ka du a Citroen C1 glas, a lori.
Aethpwyd â gyrrwr y Ford Ka, menyw 59 oed o ardal Casnewydd, i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach. Mae ei theulu agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Rydyn ni’n gofyn i unrhyw fodurwyr â lluniau camera car a oedd yn defnyddio’r A467 rhwng 1pm a 2pm gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter, gan grybwyll rhif cofnod 2300012861 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.