Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth swyddogion i safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd ger Westfield Drive a Heol Malpas, Casnewydd tua 10.30am ddydd Mawrth 24 Ionawr, ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth neu luniau camera car a allai eu cynorthwyo i gysylltu â nhw.
Rydyn ni’n apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar gyffordd Westfield Drive a Heol Malpas, Casnewydd, tua 10.30am ddydd Mawrth 24 Ionawr.
Galwyd swyddogion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a cherddwr. Cafodd y cerddwr, menyw 78 oed, fân anafiadau ac aethpwyd â hi i’r ysbyty i wneud yn siŵr ei bod hi’n iawn.
Yn ôl pob sôn gadawodd y gyrrwr y lleoliad ar ôl y gwrthdrawiad; credir mai gwyn oedd lliw y fan.
Mae ymholiadau’n parhau ac rydyn ni’n gofyn i unrhyw fodurwyr â lluniau camera car a oedd yn defnyddio Westfield Drive neu Heol Malpas rhwng 10am ac 11am gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu rhif cofnod 2300024407 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.