Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth swyddogion i leoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A472 rhwng Crymlyn a Ffordd Hafodyrynys, tua 3.50am ddydd Sadwrn 14 Ionawr ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Rydyn ni'n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A472 rhwng Crymlyn a Ffordd Hafodyrynys, tua 3.50am ddydd Sadwrn 14 Ionawr.
Aeth swyddogion i leoliad y gwrthdrawiad, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ac un car oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad - Dacia Sandero du.
Cafodd teithiwr yn y car, menyw 28 oed, ei chludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach.
Mae ei theulu agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Cafodd dyn 31 oed o Lynebwy ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru peryglus a gyrru tra’n anaddas oherwydd diod a chyffuriau. Mae yn dal yn y ddalfa.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â ni.
Rydyn ni'n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw fodurwyr â lluniau CCTV neu gamera car o’r A472 yn ardal Crymlyn rhwng 3.30am a 4am gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, gan grybwyll rhif cofnod 2300013602 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.