Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Croeso i flog Pilgwenlli
Bydd y rhifyn hwn o flog yr arolygydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r gwaith y bu ein timau yn ei wneud ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr a bydd yn canolbwyntio ar sut mae ein tîm plismona cymdogaeth yn gweithio gyda phartneriaid a'r gymuned i helpu i gadw Pilgwenlli yn ddiogel.
Ers ein blog diwethaf, y gallwch ei ddarllen yma, mae ein swyddogion cymdogaeth wedi bod yn gweithio'n galed i daclo materion sydd wedi'u codi gan aelodau o'r gymuned.
Dywedodd Arolygydd Hannah Welti:
"Mae'r gwaith caled mae ein swyddogion yn ei wneud ar draws Gwent, ac yn enwedig ym Mhigwenllil, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo eu bod nhw'n cael eu diogelu ac yn cael sicrwydd.
“Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi lansio mentrau newydd i helpu i daclo materion y mae trigolion lleol wedi'u codi ac rydyn ni eisoes wedi gweld rhai canlyniadau gwych.
"Drwy weithio gyda'r gymuned a'n partneriaid gallwn ni sicrhau bod Pilgwenlli yn parhau i fod yn lle diogel i bawb."
Dyma y mae ein swyddogion wedi bod yn ei wneud...
Ymgyrch Absorb
Ymgyrch aml-asiantaeth oedd Ymgyrch Absorb, gyda'r nod o leihau troseddau meddiangar ym Mhilgwenlli
Ym mis Rhagfyr, gwelodd Operation Absorb:
Ymgyrch Wyvern
Ym mis Rhagfyr hefyd cafodd Ymgyrch Wyvern ei ail-gyflwyno. Mae'r ymgyrch hwn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â cham-fanteisio rhywiol ym Mhilgwenlli.
Mae'r ymgyrch eisoes wedi gweld canlyniadau positif, a dyn 52 oed a dyn 58 oed yn cael eu harestio a'u cyhuddo o lithio at ddiben cael gwasanaethau rhywiol.
O siarad ag aelodau o'r gymuned, rydyn ni wedi nodi pryderon sylweddol am gam-fanteisio rhywiol yn yr ardal. Er ei bod eisoes yn flaenoriaeth i'r tîm plismona'r gymdogaeth, rydyn ni nawr yn gweithio mwy ar y cyd â phartneriaid ac yn cymryd camau rhagweithiol i ymdrin â cham-fanteisio rhywiol. Gobeithiwn fod hyn yn anfon neges glir i unrhyw un sy’n byw ym Mhilgwenlli neu’n ymweld â hi, nad ydym yn goddef cam-fanteisio rhywiol yma.
Mae ein tîm yn gweithio'n galed, gan gyfarfod â grwpiau cymorth lleol i helpu unrhyw un sy'n cael ei nodi’n agored i niwed.
Ymgyrch Polar Express
Dros gyfnod yr ŵyl, gwnaeth swyddogion gynnal mwy o batrolau amlwg mewn mannau lle’r ydym yn gwybod bod yna broblemau byrgleriaeth i helpu i gadw trigolion lleol a busnesau’n ddiogel.
Fel rhan o Ymgyrch Polar Express, cafodd dyn 46 oed ei arestio a'i gyhuddo o bum achos o ddwyn, a chafodd dyn 43 oed ei gyhuddo o ddwy drosedd.
Gwnaeth llwyddiant yr ymgyrch hon olygu bod perchnogion busnesau yn teimlo’u bod wedi'u diogelu a'u sicrhau.
Gweithio gyda phartneriaid
Ddydd Gwener (13 Ionawr), gwnaeth ein swyddogion weithio ochr yn ochr â phartneriaid o Gyngor Dinas Casnewydd fel rhan o "Bartneriaeth Pilgwenlli".
Cafodd y fenter ar y cyd hon ei chynnal er mwyn i drigolion siarad â'n swyddogion ni a swyddogion y cyngor am unrhyw faterion neu bryderon a allai fod ganddyn nhw.
Roedd y diwrnod yn llwyddiant, ac roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl yn dod heibio i siarad â swyddogion.
Rydyn ni’n dechrau'r flwyddyn yn yr un modd ag yr ydym yn bwriadu parhau - drwy arestio'r rhai sydd â'u bryd ar dorri'r gyfraith ac achosi niwed a gofid yn ein cymunedau.
Ddechrau mis Ionawr, arestiodd ein tîm ddyn 24 oed o ardal Casnewydd ar amheuaeth o’r canlynol:
Ers hynny mae'r dyn wedi ei gadw ar remand yn y carchar.
Edrychwn ymlaen at rannu'r blog nesaf, cadwch lygad amdano.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith da ein timau plismona cymdogaeth, dilynwch @GPNewport a Heddlu Gwent ar Twitter, Facebook, ac Instagram.
Arolygydd Hannah Welti
Tîm plismona cymdogaeth Pilgwenlli