Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Rebecca Press, 31 oed, o Gaerffili, wedi cael ei dedfrydu i garchar am oes gydag isafswm o 20 mlynedd ar ôl cael ei barnu’n euog o lofruddiaeth Marc Ash ym mis Gorffennaf 2022.
Mae Rebecca Press, 31 oed, o Gaerffili, wedi cael ei dedfrydu i garchar am oes gydag isafswm o 20 mlynedd ar ôl cael ei barnu’n euog o lofruddiaeth Marc Ash ym mis Gorffennaf 2022.
Heddiw cafodd ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Yn dilyn treial byr yn y llys, newidiodd Press ei phle i euog o lofruddio’r dyn 57 oed mewn cyfeiriad yn Elliots Town, Caerffili.
Mae teulu Marc Ash wedi rhyddhau’r datganiad hwn yn dilyn y ddedfryd heddiw:
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddweud ychydig eiriau ar ran fy nhad.
“Roeddwn i’n caru dad a dwi ddim yn gallu credu ei fod wedi cael ei gymryd o fy mywyd i mewn ffordd mor greulon.
“Roedd fy nhad yn ddeallus, caredig, addfwyn a doniol ac roedd ganddo wybodaeth fanwl am gerddoriaeth a’r pynciau eraill a gyflwynodd i mi. Dwi’n rhannu diddordebau tebyg i dad.
“Dwi’n gobeithio astudio’r Gyfraith fel gyrfa ac ni fydd dad byth yn fy ngweld i’n mynd i’r brifysgol, graddio na dechrau teulu. Ni welodd fi’n cyrraedd fy mhen-blwydd yn 18, pasio fy mhrawf gyrru na phasio arholiadau dwi’n gwybod y byddai’n falch ohonynt.
“Mae’r holl gyfleoedd hyn wedi cael eu cymryd oddi wrtha’i a bydd rhaid i mi fyw gyda’r ffaith bod gen i ddim tad bellach am weddill fy oes.”
Ychwanegodd rhieni Marc:
“Cafodd bywyd Marc ei gymryd oddi wrtho yn drasig. Mae ei deulu a’i ffrindiau wedi’u dinistrio gan ei farwolaeth frawychus.
“Roedd yn ddyn addfwyn; diymhongar ei ffordd; yn ŵr bonheddig. ‘Dyw dweud y bydd colled fawr ar ei ôl ddim yn dod yn agos at gyfleu ein teimladau ond rydym wedi bod yn wirioneddol lwcus i’w gael ef.”
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Michelle Chaplin:
"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig a disynnwyr a arweiniodd at farwolaeth dyn a oedd yn annwyl i lawer.
"Mae teulu Marc Ash wedi cael eu chwalu gan eu colled ac maen nhw wedi gorfod clywed manylion gofidus am farwolaeth eu hanwylyn yn ystod y treial wrth iddyn nhw geisio cael cyfiawnder am farwolaeth.
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i dalu teyrnged i deulu a ffrindiau Marc am eu dewrder, eu hurddas a’u cefnogaeth trwy gydol ein hymchwiliad. Ni all unrhyw ddedfryd wneud iawn am eu colled, a chydymdeimlwn a nhw."
Bydd hi’n treulio isafswm o 20 mlynedd yn y carchar.