Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyflwynwyd rôl hollbwysig Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn 2002 gan Ddeddf Diwygio'r Heddlu ac ers hynny mae swyddogion cymorth cymunedol wedi sefydlu eu hunain fel conglfaen plismona cymdogaeth yng Nghymru a Lloegr.
I anrhydeddu'r garreg filltir hon, mae Unison, y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn cynnal seremoni wobrwyo i gydnabod y swyddogion cymorth cymunedol sydd wedi mynd yr ail filltir wrth gyflawni eu swyddi.
O dros 300 o enwebiadau o bob heddlu yng Nghymru a Lloegr, mae pedwar o swyddogion Gwent wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori:
SCC Tarik Chaudhry – ymgysylltu â'r gymuned
Mae SCC Chaudhry wedi'i enwebu am ei waith caled a'i ymrwymiad parhaus i gymuned Cwmbrân.
Gan weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol, mae Tarik yn bresenoldeb mewn iwnifform yn y gymuned sy’n hawdd mynd ato, yn cynnig sicrwydd, gwella hyder ac ymddiriedaeth, a meithrin perthynas dda gyda’r gymuned.
O fynychu a threfnu digwyddiadau ymgysylltu i weithio gyda grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mae SCC Chaudhry yn gyswllt allweddol rhwng y tîm cymdogaeth, y tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant ac adrannau allweddol eraill yn Heddlu Gwent.
Swyddogion Cymorth Cymunedol Deke Williams ac Alex Donne – arloesedd
Mae SCC Williams a SCC Donne yn chwarae rhan allweddol yn rheoli NXTGen, tîm ymgysylltu ag ieuenctid Heddlu Gwent, a nhw sy’n gyfrifol am gadetiaid yr heddlu a’r Heddlu Bach.
Mae Deke ac Alex wedi datblygu rhaglenni arloesol fel defnyddio Minecraft i ddysgu disgyblion am ddiogelwch ar-lein a gweithio gyda'r cadetiaid heddlu i greu gêm fwrdd sy'n dangos gwaith y gwasanaethau brys mewn ffordd llawn hwyl ac addysgiadol.
SCC Elliot Williams – datrys problemau
Mae SCC Williams wedi achub cyfle i ddefnyddio dulliau datrys problemau a dulliau ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol i leihau'r galw yn ei ardal a’r galw ar y tîm plismona cymdogaeth lleol.
Mae Elliot wedi chwarae rhan allweddol yn datblygu grŵp gorchwyl gydag asiantaethau partner, gan gynnwys cynghorwyr lleol, landlordiaid cymdeithasol, yr awdurdod lleol a sefydliadau trydydd sector.
Yn ogystal â meithrin ymddiriedaeth a pherthynas gref gyda'r gymuned leol, mae SCC Williams wedi rhoi camau gweithredu allweddol ar waith i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys trefnu tasgau i wardeiniaid diogelwch cymunedol a threfnu gweithgareddau dargyfeiriol fel digwyddiadau chwaraeon a theithiau undydd gyda gwasanaethau ieuenctid.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Hobrough:
"Mae swyddogion cymorth cymunedol yn rhan hanfodol o Heddlu Gwent, yn chwarae rhan hollbwysig yn amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.
"Er bod plismona wedi newid dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae swyddogion cymorth cymunedol wedi bod yn bresenoldeb cyson, yn ymgysylltu â phobl, meithrin ymddiriedaeth a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel a chadarn.
"Mae'r pen-blwydd hwn yn ein galluogi i ddathlu pwysigrwydd rôl swyddogion cymorth cymunedol ac rwy'n falch bod pedwar o'n swyddogion ni wedi cael eu cydnabod am eu gwaith gwerthfawr yng Ngwent."
Dywedodd AS Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: ''Ers dros 20 mlynedd mae swyddogion cymorth cymunedol wedi chwarae rhan ganolog mewn plismona yng Nghymru, gan weithio wrth galon ein cymunedau i helpu i gadw pobl yn ddiogel.
"Rwy'n falch bod digwyddiad heddiw yn cydnabod ac yn dathlu ymrwymiad ein swyddogion cymorth cymunedol a’u holl gyflawniadau.
"Yn bersonol, hoffwn dalu teyrnged i'n swyddogion cymorth cymunedol am y gwaith hollbwysig, a heriol yn aml, maen nhw'n ei wneud."
Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ddydd Iau 12 Ionawr.