Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth swyddogion i leoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn Monnow Way, Betws tua 3.40pm ddydd Mercher 25 Ionawr.
Cadarnhaodd parafeddygon bod y gyrrwr, dyn 23 oed o ardal Casnewydd, wedi marw yn y fan a’r lle.
Gallwn gyhoeddi yn awr mai ei enw yw Joshua Stock.
Mae ei deulu wedi cyhoeddi’r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Josh yn berson caredig, cariadus a gofalgar. Roedd yn gwbl ymroddedig i’w deulu ac yn ofalwr amser llawn i’w famgu annwyl, Judith, yn ymweld â hi a gofalu amdani bob dydd.
“Roedd Josh wrth ei fodd yn tynnu coes ac roedd ganddo synnwyr digrifwch drygionus a sych iawn. Byddai’n mynd allan o’i ffordd i wneud i bobl wenu a chwerthin, hyd yn oed yn ystod y cyfnodau gwaethaf.
“Roedd yn hapus braf ac roedd bob amser yn ffeindio amser i helpu ei ffrindiau.
“Rydyn ni’n ddiolchgar am yr holl negeseuon caredig o gariad a chefnogaeth, ond gofynnwn am amser i alaru gyda’n gilydd fel teulu.”
Mae ei deulu agosaf yn dal i gael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Rydyn ni’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw fodurwyr â lluniau camera car a oedd yn defnyddio Monnow Way rhwng 3pm a 4pm gysylltu â ni.
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter, gan grybwyll rhif cofnod 2300026066 gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.