Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wythnos plismona cymdogaeth | 23 - 29 Ionawr | #WythnosPlismonaCymdogaeth
Heddiw (dydd Llun 23 Ionawr) yw diwrnod cyntaf wythnos plismona cymdogaeth, ymgyrch Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) sy'n tynnu sylw at waith timau plismona cymdogaeth ledled y wlad.
Mae ein timau plismona cymdogaeth, sy’n cynnwys prif arolygwyr, arolygwyr, rhingylliaid, cwnstabliaid heddlu, swyddogion cymorth cymunedol, gwirfoddolwyr yr heddlu a thimau arbenigol, yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r troseddau sy'n effeithio fwyaf ar drigolion Gwent.
Meddai Prif Uwch-arolygydd Matthew Williams, arweinydd Gwent ar blismona cymdogaeth:
"Mae ein timau cymdogaeth yn chwarae rôl hollbwysig yn amddiffyn trigolion a busnesau rhag effaith trosedd ac anhrefn, o arolygwyr yn gweithio gyda phartneriaid y cyngor i drefnu patrolau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, i swyddogion yn gweithredu gwarantau i darfu ar gyflenwi cyffuriau a dod o hyd i droseddwyr, neu ein tîm Dangos y Drws i Drosedd yn cyflwyno mesurau arloesol i atal troseddau meddiangar fel byrgleriaeth.
"Mae’r ffordd rydyn ni’n plismona cymdogaeth yn seiliedig ar dri nod: creu ffyrdd newydd o fynd i'r afael â throseddau mynych (dull datrys problem); atal troseddu rhag digwydd yn y lle cyntaf drwy ganfod tueddiadau yn gynnar; a datblygu cysylltiadau cryf gyda'n cymunedau trwy ymgysylltu.
"Trwy gydol yr wythnos, ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cewch weld rhywfaint o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i atal trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r camau rydyn ni'n eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed."
Mae ein timau'n gweithio gyda sefydliadau partner a chymunedau i siarad yn agored am bryderon ac i roi mesurau ar waith i atal a lleihau trosedd, i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel.
Ac mae ein cymunedau'n chwarae rhan hollbwysig yn llywio ein gwaith cynllunio a'n hymateb i broblemau lleol.
Trwy rannu cudd-wybodaeth gyda ni, boed hynny drwy riportio troseddau nad ydynt yn argyfwng ar ein gwefan, ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101, trwy ymweld ag un o’n cymorthfeydd heddlu neu wrth siarad â ni ar y stryd, rydych chi'n ein helpu ni i lunio ein hymateb a dwyn y rhai sy'n difetha ein cymunedau gerbron y llysoedd.
Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol trwy gydol yr wythnos wrth i ni ddangos gwaith ein timau cymdogaeth.